Gwneud cais ar-lein
Crynodeb o'r drwydded
Er mwyn storio, paratoi, dosbarthu neu werthu bwyd ar fangre, bydd angen i chi gael eich cofestru gyda'r awdurdod lleol. Mae mangreoedd yn cynnwys bwytai, caffis, gwestai, siopau, ffreuturau, stondinau marchnad, faniau arlwyo symudol a faniau dosbarthu bwyd.
Gall fod angen i rai gwneuthurwyr sy'n trin bwyd o darddiad anifeiliaid gael eu cymeradwyo gan yr awdurdod lleol neu'r Gwasanaeth Hylendid Cig, yn hytrach na chael eu cofrestru. Os nad ydych yn sicr a oes angen i'ch busnes gael ei gymeradwyo neu ei gofrestru, ac os yw eich busnes yng Nghastell-nedd Port Talbot, ffoniwch yr Is-adran Diogelwch Bwyd ar 01639 686868.
Meini Prawf Cymhwysedd
Dim darpariaeth yn y ddeddfwriaeth
Crynodeb o'r Rheoliad
- Crynodeb o Reoliad (CE) 853/2004 - Rheolau hylendid ar gyfer bwyd o darddiad anifeiliaid
- Crynodeb o Reoliad (CE) 852/2004 - Ar hylendid bwyd
Proses i Werthuso'r Cais
Dim darpariaeth yn y ddeddfwriaeth.
A fydd Caniatâd Dealledig yn berthnasol?
Bydd. Mae hyn yn golygu y byddwch yn gallu gweithredu fel petai eich cais wedi cael ei gymeradwyo os nad ydych wedi clywed gan yr awdurdod lleol erbyn diwedd y cyfnod cwblhau targed
NEU
Na. Mae er budd y cyhoedd bod yn rhaid i'r awdurdod brosesu eich cais cyn iddo gael ei ganiatáu. Os nad ydych wedi clywed gan yr awdurdod lleol o fewn cyfnod rhesymol, ffoniwch yr Is-adran Diogelwch Bwyd ar 01639 686868. Gallwch wneud hyn ar-lein os ydych wedi gwneud cais drwy wasanaeth UK Welcomes neu drwy ddefnyddio'r manylion cyswllt isod.
Gwneud Cais Ar-lein
Cywiro Cais sydd wedi Methu
Ffoniwch yr Is-adran Diogelwch Bwyd yn y lle cyntaf ar 01639 686868.
Cywiro Deiliad y Drwydded
Ffoniwch yr Is-adran Diogelwch Bwyd yn y lle cyntaf ar 01639 686868.
Cwyn gan Ddefnyddiwr
Byddem bob amser yn cynghori mai chi ddylai gysylltu â'r masnachwr yn y lle cyntaf os ceir cwyn - yn ddelfrydol drwy lythyr (â phrawf postio). Os nad yw hynny wedi gweithio a'ch bod yn y DU, bydd Cyswllt Defnyddwyr yn rhoi cyngor i chi. Os ydych y tu allan i'r DU, cysylltwch â Chanolfan Defnyddwyr Ewropeaidd y DU.
Cywiriadau Eraill
E.e. am sŵn, llygredd, etc. Hefyd, petai un deiliad trwydded yn cwyno am un arall.