Archwiliadau hylendid bwyd
Mae swyddogion diogelwch bwyd yn archwilio mangreoedd bwyd yn unol â'r risg a berir ganddynt. Mae ganddynt y pwerau i fynd i fangre bwyd ar bob adeg resymol a'i harchwilio. Nid oes rhaid iddynt drefnu apwyntiad; fel arfer byddant yn dod heb rybudd. Mae codau ymarfer yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn pennu pa mor aml yr archwilir pob mangre bwyd. Archwilir mangre risg uwch, e.e. cartref nyrsio sy'n gweini bwyd i hen bobl "ddiamddiffyn", yn amlach na mangre risg isel sy'n gwerthu melysion yn unig, e.e. siop papurau newydd.
Bydd swyddogion yn ystyried y modd y mae'r busnes bwyd yn gweithredu er mwyn sicrhau ei fod yn cydymffurfio â'r gyfraith. Byddant yn trafod unrhyw broblemau â'r perchennog ac yn rhoi arweiniad a chyngor ar sut i'w datrys. Bydd gan swyddogion y pwerau hefyd i gymryd camau penodol y maent yn eu hystyried yn angenrheidiol, sy'n cynnwys y canlynol:
- Ysgrifennu'n anffurfiol at y perchennog i ofyn iddo ddatrys unrhyw broblemau a geir
- Cymryd samplau
- Tynnu ffotograffau
- Cyflwyno hysbysiadau gwella hylendid
- Cadw neu atafaelu bwyd amheus
- Mewn achosion difrifol, gellir argymell erlyn a allai gynnwys cyfeirio at y llysoedd
- Cyflwyno hysbysiadau gwahardd brys o ran hylendid neu hysbysiadau o gamau gweithredu adferol os oes argyfwng. Gall hyn atal mangre rhag cael ei defnyddio fel busnes bwyd