Cartrefi gwag
Mae gan berchnogion eiddo gyfrifoldeb i atal tai gwag rhag mynd yn niwsans.
Gall eiddo gwag tymor hir leihau gwerthoedd cartrefi cyfagos a denu:
- plâu
- fandaliaeth
- ymddygiad gwrthgymdeithasol
- mynediad heb awdurdod
Rhoi gwybod am eiddo gwag
Gyda'ch manylion cyswllt, gallwch roi gwybod am:
- gwag
- diffaith
- eiddo adfeiliedig
Byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am eich cwyn ac yn ymchwilio i unrhyw niwsans.
Dod ag eiddo yn ôl i ddefnydd
Er mwyn ailddefnyddio eiddo, gall perchnogion:
- gwerthu
- rhentu
- adnewyddu
- byw yn yr eiddo
Gallwn ddarparu cyngor a chymorth ariannol i helpu perchnogion gyda hyn.
Sut allwn ni helpu
Os byddwn yn derbyn adroddiad am eiddo gwag, byddwn yn ceisio:
- adnabod y perchennog
- rhoi gwybod iddynt am unrhyw faterion a adroddwyd i ni
- blaenoriaethu camau gorfodi ar eiddo problemus a pherchnogion anghydweithredol
Camau cyfreithiol
Rydym yn barod i gymryd camau cyfreithiol lle mae tystiolaeth o:
- gwastraff cronedig neu ordyfiant sy'n achosi problemau pla
- niwsans i breswylwyr cyfagos
- perygl difrifol o anaf sy'n deillio o gyflwr yr adeilad
- adeiladau sydd wedi'u hesgeuluso sy'n niweidiol i'r ardal leol