Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Cronfa Hyblyg ar gyfer Cyflogaeth a Sgiliau

Os ydych chi’n byw yng Nghymru, ac wedi colli eich swydd gyda Tata Steel UK yn ddiweddar, neu gyda chwmni yn ei gadwyn gyflenwi, neu gyda chontractiwr cysylltiedig arall, gallwch gael mynediad i arian grant i’ch helpu i sicrhau cyflogaeth i’r dyfodol.

Sefydlwyd y Gronfa Hyblyg ar gyfer Cyflogaeth a Sgiliau gan Fwrdd Pontio Tata i gefnogi pobl yng Nghymru a effeithir yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol gan raglen drawsnewid bresennol Tata Steel UK.

Ar gyfer beth y gellir defnyddio’r arian?

Os ydych chi’n gymwys, gall y grantiau ar gyfer unigolion eich helpu i dalu costau pethau fel:

·        costau hyfforddi

·        ffioedd sefyll arholiad

·        tystysgrifau a thrwyddedau sy’n ymwneud â gwaith

·        offer a thaclau

·        yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus ar gyfer yr hunan-gyflogedig

Nid rhestr lawn o enghreifftiau mo’r uchod, ac ystyrir cefnogi ariannu costau eraill ar sail achosion unigol.

Sut alla i gael mynediad i'r cyllid?

Os ydych chi’n byw yng Nghastell-nedd Port Talbot 

Anfonwch e-bost at jobsupport@npt.gov.uk i drefnu cyfarfod gydag un o’n mentoriaid Cyflogadwyedd CNPT i drefnu a ydych chi’n gymwys.

Neu gallwch alw naill ai yng nghanolfannau picio-i-mewn Cyflogadwyedd CNPT neu’r Ganolfan Gefnogi Gymunedol newydd yng Nghanolfan Siopa Aberafan.

Os ydych chi’n byw yn rhywle arall yng Nghymru

Cysylltwch â’ch gwasanaeth cyflogadwyedd lleol os gwelwch yn dda.

Neu os ydych chi’n gweithio ym Mhort Talbot ond yn byw yn rhywle arall, gallwch hefyd alw yn y lleoliadau picio-i-mewn uchod i siarad wyneb yn wyneb ag un o’n cynghorwyr.

Rydyn ni’n deall y gall colli eich gwaith a’r hyn a all ddilyn fod yn hynod anodd, ond erfyniwn arnoch i gysylltu. Rydyn ni yma i’ch helpu i benderfynu beth hoffech chi ei wneud, ac i’ch cefnogi ym mha gyfeiriad bynnag y dymunwch fynd.  

Pa wybodaeth fydd angen i mi ei ddarparu?

Er mwyn helpu ein cynghorwyr i’ch cefnogi chi a symud eich ymholiad ymlaen yn gynt, bydd angen i chi ddarparu:  

·        copi o’ch llythyr colli swydd

·        ID â llun arno

·        eich rhif Yswiriant Gwladol