Dyddiad: Dydd Gwener 4ydd Hydref a dydd Sadwrn 5ed Hydref 2024
Mae Gŵyl Bwyd a Diod Castell-nedd yn addo diwrnod allan llawn hwyl gydag anwyliaid, bwyd blasus, ac atgofion bythgofiadwy!
Ymunwch â ni am ddau ddiwrnod ym mis Hydref am fwyd, diod ac adloniant yn nhref farchnad swynol Castell-nedd i ddathlu:
- cymuned
- creadigrwydd
- diwylliant
Drwy gydol yr ŵyl, gall ymwelwyr fwynhau amrywiaeth eang o fwyd ac adloniant.
Felly, nodwch eich calendr, dewch yn llwglyd, a dewch â'ch synnwyr o antur. Edrychwn ymlaen at eich gweld chi yno!
Oriau agor
Dyddiad | Amser |
---|---|
Dydd Gwener 4ydd Hydref | 10.00 - 17.30 |
Dydd Sadwrn 5ed Hydref | 10.00 - 17.30 |
Parcio a ffyrdd
Gwiriwch feysydd parcio Castell-nedd am ragor o wybodaeth am leoliad, oriau agor a phrisiau:
Maes Parcio | Lleoliad | Mannau parcio |
---|---|---|
Maes Parcio'r Stryd Fawr | Castell-nedd | 37 |
Maes Parcio Heol Milland | Castell-nedd | 450 |
Maes Parcio Aml-lawr Castell-nedd (mynediad nawr drwy Rhodfa Tywysog Cymru) | Castell-nedd | 600 |
Maes Parcio Rosser Street | Castell-nedd | 33 |
Gwiriwch i weld unrhyw waith ffordd neu ffyrdd sydd ar gau yn yr ardal.