Pwy all gael Taliadau Uniongyrchol?
Mae Taliadau Uniongyrchol yn opsiwn i unrhyw un sydd wedi cael ei asesu fel rhywun sydd ag angen gofal cymdeithasol cymwys.
Gall hyn gynnwys:
- rhieni a gofalwyr 16 oed neu hŷn
- pobl sydd â chyfrifoldeb rhiant am blentyn ag anableddaus
- oedolion ag anableddau dysgu neu broblemau iechyd meddwl
- oedolion hŷn â namau corfforol neu synhwyraidd
Os nad ydych wedi cael eich asesu yna bydd angen i chi gael asesiad Gwaith Cymdeithasol i benderfynu a ydych yn gymwys ar gyfer gwasanaethau.
Gallwch ofyn am asesiad trwy gysylltu â Thîm Pwynt Cyswllt Sengl Castell-nedd Port Talbot (SPOC), sy'n cynnwys Gwasanaethau Oedolion a Phlant.