Ar beth y gellir defnyddio Taliadau Uniongyrchol?
Gellir defnyddio Taliad Uniongyrchol ar gyfer nifer o bethau gwahanol, cyn belled â'i fod yn bodloni'ch angen a aseswyd.
Gallech gyflogi Cynorthwy-ydd Personol (CP) o’ch dewis i’ch helpu gyda:
- tasgau fel ymolchi, gwisgo, siopa a glanhau
- mynd allan yn y gymuned i wneud yr hyn yr ydych yn ei fwynhau
neu
-
gallech ddefnyddio’r arian i brynu offer untro sy’n cefnogi eich anghenion.
-
gallwch drefnu eich gwasanaethau cymorth eich hun gan asiantaeth.
Bydd y Taliad Uniongyrchol yn cael ei roi ar waith i helpu i wneud y mwyaf o'ch annibyniaeth, iechyd, lles a diogelwch.
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â’r Gwasanaeth Cymorth Taliadau Uniongyrchol:
Gwasanaeth Cymorth Taliadau Uniongyrchol