Dod yn weithiwr cymorth cymunedol
Rydyn ni’n chwilio am bobl garedig a gofalgar i ymuno â’n Tîm Llesiant Cymunedol. Ni sy’n gyfrifol am ddarparu gofal personol i bobl yn eu cartrefi’u hunain er mwyn eu helpu i aros mor annibynnol â phosib.
Fe all hyn gynnwys cynorthwyo â gofal personol, paratoi prydau bwyd a helpu gyda meddyginiaeth.
Mae gennym nifer o swyddi cyflenwi ar gael hefyd i bobl sydd eisiau gweithio yn ôl y galw.
Pam ymuno â’n tîm yng Nghyngor Castell-nedd Port Talbot?
Os ydych chi’n chwilio am swydd ble gallech chi wneud gwahaniaeth go iawn i fywyd rhywun yn feunyddiol, efallai mai dod yn weithiwr cymorth cymunedol yw’r swydd i chi.
Y peth pwysicaf am weithio mewn gofal cymdeithasol yw bod gennych ysfa i helpu eraill.
Mae profiad blaenorol yn ddymunol ond byddwn yn darparu hyfforddiant llawn.
Rhai o’r rhesymau mwyaf cyffredin y bydd pobl yn dewis gweithio i ni yw:
- patrymau amrywiol o waith ar gael
- hyfforddiant llawn wedi'i ddarparu sydd hefyd yn arwain at Gofrestru Gofal Cymdeithasol Cymru
- oriau gwaith wedi’u gwarantu, ynghyd â chyfleoedd i weithio oriau goramser
- cyfradd Cyflog Byw Cenedlaethol a gwelliannau cyflog
- hawliau gwyliau blynyddol hael
- mynediad i Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
- darperir gwisg swyddogol ac offer diogelu personol (PPE)
- cyfleoedd i ddatblygu gyrfa
- amser teithio â thâl rhwng galwadau a lwfans milltiroedd
Cefnogaeth swydd
Os oes angen unrhyw help neu gyngor arnoch wrth lenwi'r ffurflen gais, cysylltwch â'n tîm cyfeillgar ar 07794878920 neu 01639 765301 neu 01639 685303.
Neu anfonwch e-bost at Jo, Cydlynydd Hyfforddi a Recriwtio ar j.f.owen@npt.gov.uk, Gemma, Rheolwr Tîm, ar g.pascoe@npt.gov.uk neu Eirlys, Dirprwy Reolwr y Tîm, ar m.e.ryan@npt.gov.uk Os ydych chi’n meddwl yr hoffech gael help gyda gwneud cais am swydd, mae ein tîm cefnogi cyflogaeth, Cyflogadwyedd CPT yma i helpu.
Gall y tîm helpu gyda llenwi ffurflenni cais, dulliau cynnal cyfweliad, codi hyder a chwilio am swydd. Gallwch gysylltu â Cyflogadwyedd CPT ar 01639 860160 neu drwy lenwi ein ffurflen ymholiadau.
Swyddi gofal eraill
Gofalwn Cymru yw’r porth penodol yng Nghymru ar gyfer pob swydd wag gyda darparwyr gofal cymdeithasol allanol, gan gynnwys swyddi mewn gofal cymdeithasol i oedolion, blynyddoedd cynnar a gofal plant. Mae sawl rôl wahanol ar gael mewn gofal cymdeithasol a allai fod o ddiddordeb i chi, o gefnogi rhywun yn eu cartref i weithio mewn cartref gofal preswyl.
I ddysgu mwy am y math o swyddi yw’r rhain, mae gan wefan Gofalwn Cymru lawer o astudiaethau achos a fideos o bobl yn disgrifio drostynt eu hunain sut beth yw hi i wneud y swydd.