Pwy all gael bathodyn glas a sut i wneud cais
Rhaid i bob ymgeisydd fod yn yrrwr neu'n deithiwr mewn cerbyd wrth ddefnyddio Bathodyn Glas.
Yr ymgeisydd sy'n gyfrifol am ddarparu tystiolaeth ategol ac am unrhyw gost o dystiolaeth feddygol annibynnol.
Sut i wneud cais
Bydd angen llun digidol diweddar arnoch yn dangos eich pen a'ch ysgwyddau
Bydd hefyd angen llun neu sgan o'ch:
- prawf adnabod (megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded yrru)
- prawf o gyfeiriad (fel bil Treth y Cyngor neu lythyr gan y llywodraeth)
- prawf o fudd-daliadau (os cewch chi rhai)
Bydd angen i chi wybod hefyd:
- eich rhif Yswiriant Gwladol (os oes gennych un)
- manylion eich Bathodyn Glas presennol (os ydych yn ailymgeisio)
Defnyddiwch y botwm isod i wirio eich cymhwysedd a gwneud cais am Fathodyn Glas ar GOV.UK: