Tîm Adnoddau Cymunedol
Gwasanaeth ar y cyd yw'r Tîm Adnoddau Cymunedol (TAC) a ddarperir gan:
Mae'r TAC yn helpu oedolion (dros 18 oed) sy'n byw yng Nghastell-nedd Port Talbot y mae angen cefnogaeth arnynt i fyw'n annibynnol, yn eu tai eu hunain.
Bydd cleifion yn derbyn:
- yr ymyriad cywir
- ar yr adeg gywir
- gan y gweithiwr proffesiynol cywir
Gellir cysylltwch y Tîm Adnoddau Cymunedol:
Mae Tîm Pwynt Cyswllt Unigol Oedolion a Phlant yn cydgysylltu anghenion iechyd a gofal cymdeithasol.
Ein gwasanaethau
Tîm Cefnogaeth Synhwyraidd
Gwasanaeth i helpu pobl:
- sydd â nam ar eu golwg
- sy'n fyddar neu â nam ar eu clyw
- sy'n fyddarddall (neu â nam ar ddau synnwyr – cyfuniad arwyddocaol o nam ar y clyw a'r golwg)
Rydym yn cefnogi plant ac oedolion ag anableddau synhwyraidd.
Tîm Ailalluogi
Gwasanaeth cefnogi i helpu chi i adennill eich sgiliau a'u hannibyniaeth.
Gall Ailalluogi helpu pobl i:
- wella ansawdd eu bywyd
- cadw neu adennill sgiliau bywyd pob dydd
- adennill neu wella eu hyder
- gwella eu dewisiadau sy'n ymwneud â bywyd pob dydd
Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol Cymunedol
Nod y Gwasanaeth yw hybu'ch iechyd a'ch lles trwy weithgareddau bob dydd, trwy ddefnyddio technegau amrywiol, addasu eich amgylchedd a defnyddio offer arbennig.
Gallwn weithio gyda chi i
- wella ansawdd eich bywyd
- cynyddu eich annibyniaeth a'ch diogelwch
- eich galluogi i gael mynediad i wasanaethau cymorth eraill
- cynyddu eich dewis a'ch rheolaeth
Technoleg Gynorthwyol
Mae'r Gwasanaeth Technoleg Gynorthwyol yn cynnig amrywiaeth o gategoriau i alluogi pobl i aros yn ddiogel ac yn annibynnol yn eu cartref eu hunain ac o'i amgylch.
Mae Technoleg Gynorthwyol:
- yn cynnig hawdd i'w ddefnyddio
- yn cynnig tawelwch meddwl i'r cwsmer, gofalwyr a theulu/ffrindiau
- gall leihau lefel y gefnogaeth y mae ei angen I barhau i fyw gartref
- ymateb 24 awr/365 diwrnod gan y ganolfan fonitro
- hyrwyddo annibyniaeth
- lleihau risgiau
Ystafell Atebion Digidol
Mae'r cyfleuster arloesol hwn wedi'i gynllunio i gynnig cefnogaeth ac arweiniad hanfodol i:
- pobl
- rhoddwyr Gofal
- gweithwyr proffesiynol
sydd yn gweithio yn y maes, a allai elwa o ddefnyddio technoleg ddigidol prif ffrwd.
Gellir trefnu apwyntiad i ymweld â'r Ystafell Atebion Digidol a gweld y dechnoleg gynorthwyol trwy ymuno ag arddangosiad grŵp (uchafswm o 6 lle'r sesiwn)
Gellir trefnu sesiynau unigol drwy gysylltu â: