Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Offer ac addasiadau i'r cartref

Trosolwg

Mae’n bosibl y gallwn eich helpu i wneud newidiadau i’ch cartref os ydych yn cael problemau gyda:

  • mynd i fyny ac i lawr y grisiau
  • mynd i mewn ac allan o'ch cartref
  • mynd i mewn ac allan o'r bath neu gawod
  • symud o gwmpas

Gallwn hefyd gynnig monitorau a synwyryddion i'ch cadw'n ddiogel.

Cymorth y gallwn ei gynnig

Llinellau bywyd a monitorau

Rydym yn cynnig tri chategori o gefnogaeth, yn dibynnu ar eich anghenion:

  • Categori 1 - Llinell Fywyd
  • Categori 2 - Diogelwch yn y cartref
  • Categori 3 - Monitro Teleofal o bell

Mân addasiadau

Gallwn argymell mân addasiadau i’ch cartref fel:

  • rheiliau cydio
  • rheiliau grisiau

Addasiadau mawr

Gallwn argymell addasiadau mawr i'ch cartref fel:

  • lifftiau i'r grisiau
  • cawodydd cerdded i mewn
  • estyniadau llawr gwaelod

Cyngor

Gallwn gynnig cyngor i chi ar:

  • cyflenwyr offer
  • sefydliadau defnyddiol
  • symud i eiddo mwy addas
  • gwneud y mwyaf o'ch diogelwch a'ch cysur wrth dderbyn gofal gartref

Asesiad

Nid oes angen asesiad ffurfiol arnoch ar gyfer Llinell Fywyd nac offer diogelwch yn y cartref.

Ar gyfer monitro o bell Teleofal neu newidiadau eraill i'ch cartref, bydd angen i ni gynnal asesiad. 

Byddwn yn ystyried:

  • eich anghenion
  • p'un a ydych yn rhentu neu'n berchen ar eich cartref
  • a yw cynllun a strwythur eich cartref yn addas

Ar ôl yr asesiad, byddwn yn argymell yr opsiynau gorau i'ch cefnogi.

Cost

Ni chodir tâl am yr asesiad nac am unrhyw gyngor a ddarparwn.

Efallai y bydd angen i chi gyfrannu at rai costau offer ac addasu. Bydd hyn yn dibynnu ar eich anghenion a'ch cyllid. Gallech hefyd fod yn gymwys am grant.

Cysylltwch â ni

Tîm Un Pwynt Cyswllt
(01639) 686802 (01639) 686802 voice +441639686802