Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Cymorth ariannol i ofalwyr

Beth sydd gen i hawl iddo?

Fel gofalwr efallai y bydd gennych hawl i Lwfans Gofalwr a gostyngiad yn y dreth gyngor.

Lwfans Gofalwr

Os ydych yn treulio 35 awr neu fwy yr wythnos yn gofalu am berson arall efallai y bydd gennych hawl i Lwfans Gofalwr. Taliad wythnosol o £61.35 yw hwn. Taliad trethadwy yw hwn a gall effeithio ar fudd-daliadau eraill y byddwch yn eu hawlio.

Gostyngiad i filiau Treth y Cyngor

Efallai y bydd gennych hawl i ostyngiad treth gyngor o 25-50% os yw un o’r canlynol yn berthnasol:

  • gofalwyr di-dâl
  • os byddwch yn gadael eich eiddo i gael gofal gan rywun

Gofalwyr Di-dâl

Efallai y bydd gennych hawl i ostyngiad Treth y Cyngor os ydych yn ofalwr di-dâl a’ch bod:

  • yn byw yn yr un eiddo â’r person rydych yn gofalu amdano
  • darparu o leiaf 35 awr yr wythnos o ofal (does dim rhaid i chi fod yn derbyn Lwfans Gofalwr)
  • darparu gofal i rywun nad yw’n briod, partner neu blentyn i chi o dan 18 oed

Yn ogystal, rhaid i’r person rydych yn gofalu amdano dderbyn un o’r canlynol:

  • cyfradd safonol neu uwch o daliad annibyniaeth bersonol (PIP)
  • cyfradd uwch o elfen ofal y Lwfans Byw i'r Anabl
  • cyfradd uwch o Lwfans Gweini
  • Pensiwn Anabledd uwch
  • cynnydd yn y Lwfans Gweini Cyson

Sut i wneud cais?

Os ydych yn gymwys, bydd angen i chi wneud cais am Gostyngiad Treth y Cyngor a'i chwblhau a darparu prawf cymhwysedd (o'r rhestr uchod).

  • e-mail: council.tax@npt.gov.uk
  • fel arall galwch i mewn yn y Ganolfan Ddinesig yng Nghastell-nedd Port Talbot

Os byddwch yn gadael eich eiddo eich hun i ofalu am rywun

Os byddwch yn symud i fyw gyda'r person yr ydych yn gofalu amdano efallai y byddwch wedi'ch eithrio rhag talu Treth y Cyngor.

Cysylltwch ar Adran Treth y Cyngor i ddweud wrthym.

  • y dyddiad y gadawsoch eich tŷ a’i fod yn wag (nid oes unrhyw un arall yn byw yno)
  • eich bod yn gofalu am rywun
  • eich cyfeiriad newydd ac enw'r person yr ydych yn gofalu amdano
  • lefel a math y gofal yr ydych yn ei ddarparu
  • a ydych yn bwriadu dychwelyd

Mae angen llythyr meddyg arnom yn cadarnhau bod y person rydych yn gofalu amdano angen gofal parhaus.

Mwy o wybodaeth

Gwybodaeth am fudd-daliadau i ofalwyr yn gov.uk.

Mae Gwasanaeth Gofalwyr Castell-nedd Port Talbot  yn darparu gwybodaeth a chyngor ar fudd-daliadau. Cysylltwch â: (01639) 642277 am ragor o wybodaeth.