Asesiad sy'n seiliedig ar ganlyniadau
Trafodaeth rhyngoch chi a Gweithiwr Cymdeithasol i nodi eich anghenion cymwys a chanfod a allwch gael gwasanaethau gan ofal cymdeithasol i oedolion yw asesiad sy'n seiliedig ar ganlyniadau.
Beth sy'n digwydd yn ystod asesiad?
Yn ystod asesiad, bydd gennych gyfle i drafod eich anghenion cefnogi gyda Gweithiwr Cymdeithasol ac archwilio ffyrdd y gellir diwallu'r rhain.
Bydd Gweithiwr Cymdeithasol yn gofyn i chi am y canlynol:
- Eich annibyniaeth
- Yr anawsterau rydych yn eu hwynebu
- Eich arferion personol a domestig
- Faint rydych yn ymwneud â'ch teulu, eich ffrindiau a'r gymuned
- Pa gymorth a chefnogaeth sydd gennych eisoes
- Pa gymorth rydych yn meddwl ei fod ei angen arnoch.
Gallwch ofyn i rywun rydych yn ymddiried ynddo, fel ffrind neu aelod o'r teulu, i gymryd rhan yn yr asesiad gyda chi.
Pa mor hir y bydd rhaid i mi aros am asesiad
Os yw eich sefyllfa'n un brys ac rydych mewn argyfwng neu mewn perygl difrifol o niwed, dywedwch am hyn pan fyddwch yn cysylltu â ni a bydd Gweithiwr Cymdeithasol yn ceisio'ch gweld cyn gynted â phosib.
Dan unrhyw amgylchiadau eraill, trefnir asesiadau ar amser sy'n gyfleus i bawb.
Beth sy'n digwydd ar ôl cynnal asesiad?
Ar ôl i chi gael asesiad, bydd y cyngor yn dweud wrthych a allwch dderbyn cefnogaeth ariannol gan y cyngor. Gelwir hyn yn gymhwysedd.
Cymhwysedd
Gan fod llawer o bobl yn gofyn am ein help, mae'n rhaid i'r Cyngor sicrhau ei fod yn darparu gwasanaethau i ddiwallu anghenion pobl yn y fwrdeistref sirol yn y modd mwyaf effeithiol, teg ac effeithlon. Er mwyn ein helpu i benderfynu pwy ddylai dderbyn ein gwasanaethau, rhydym yn defnyddio canllawiau o'r enw Meini Prawf Cymhwyster (sy'n seiliedig ar fframwaith a bennwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru).
Wrth edrych ar eich anghenion, rhydym yn ystyried faint o risg sydd gennych i'ch annibyniaeth. Mae angen inni wneud yn siŵr bod y bobl hynny sydd fwyaf mewn perygl yn cael eu diwallu'n gyntaf. Mewn geiriau eraill, mae ganddynt y flaenoriaeth uchaf. Pan fyddwch wedi cael asesiad, rhydym yn cymharu eich anghenion gydag ein meini prawf cymhwysedd, a phenderfynu ar eich blaenoriaeth. Ceir pedair lefel fel a ganlyn:
Meini Prawf Cymhwyster i Oedolion
Mae'r amod cyntaf yn ymwneud ag amgylchiadau'r oedolyn ac yn cael ei fodloni os yw'r angen yn codi o'r amgylchiadau a bennir yn y rheoliadau:
- afiechyd corfforol neu feddyliol;
- oedran;
- anabledd;
- dibyniaeth ar alcohol neu gyffuriau; neu amgylchiadau tebyg eraill
Bodlonir yr ail amod os yw'r angen yn ymwneud ag un neu fwy o ganlyniadau a bennir yn y rheoliadau:
- gallu i gynnal hunan-ofal neu drefniadau domestig
- gallu i gyfathrebu
- amddiffyn rhag camdriniaeth neu esgeulustod
- cymryd rhan yn y gwaith
- addysg, dysgu neu weithgareddau hamdden
- cynnal a datblygu perthnasau teuluol neu berthnasau personol arwyddocaol eraill
- datblygu a chynnal perthnasoedd cymdeithasol a chyfranogiad yn y gymuned; neu
- cyflawni cyfrifoldebau gofalu am blentyn
Bodlonir y trydydd amod os yw'r angen yn golygu nad yw'r oedolyn yn gallu cwrdd â'r angen hwnnw ar ei ben ei hun, gyda gofal a chefnogaeth eraill sy'n gallu darparu'r gofal a'r gefnogaeth honno; neu gyda chymorth gwasanaethau yn y gymuned.
Cyflawnir y pedwerydd amod os yw'r oedolyn yn annhebygol o gyflawni un neu fwy o'u canlyniadau personol oni bai bod yr awdurdod lleol yn darparu neu'n trefnu gofal a chymorth i ddiwallu eu hanghenion yn unol â chynllun gofal a chymorth neu mae'n galluogi bod angen cwrdd â thaliadau uniongyrchol.
Rwy'n gymwys am gefnogaeth a ariennir gan y cyngor
Os ydych yn gymwys, bydd y cyngor yn dweud wrthych faint o arian y mae'n debygol y byddwn yn gorfod ei dalu am eich gwasanaethau. Gall y cyngor drefnu'r gwasanaethau hyn i chi neu efallai y byddwch am dderbyn yr arian fel taliad uniongyrchol, sy'n rhoi mwy o ddewis a hyblygrwydd i chi ynghylch y gefnogaeth mae ei hangen arnoch.
Gyda chymorth rhywun rydych yn ymddiried ynddo, byddwch yn cynllunio pecyn cymorth. Gelwir hyn yn gynllun gofal a chefnogaeth. Byddwch yn amlinellu'r nodau rydych am eu cyflawni a sut rydych yn bwriadu eu cyflawni.
Nid wyf yn gymwys am gefnogaeth a ariennir gan y cyngor
Os nad ydych yn gymwys, gall gofal cymdeithasol i oedolion dal eich helpu gan ddarparu gwybodaeth a'ch cyfeirio i sefydliadau defnyddiol yn yr ardal leol. Gallai'r rhain fod yn breifat neu'n wirfoddol ac efallai y gallant ddarparu rhai gwasanaethau am ddim.
Mae llawer o bobl y mae'n well ganddynt drefnu eu gwasanaethau eu hunain yn dewis cyflogi gweithiwr gofal yn uniongyrchol drwy asiantaeth gofal cartref. Os ydych chi'n teimlo y byddai'r math hwn o gefnogaeth yn eich helpu, cofiwch ofalu am ddewis gweithiwr sydd wedi'i gofrestru a'i arolygu gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC).
Mae amrywiaeth eang o gefnogaeth yn y gymuned a all eich helpu i fyw bywyd iach, cyflawn ac annibynnol.
A fydd rhaid i mi dalu am fy ngwasanaethau gofal cymdeithasol?
Unwaith y byddwch wedi creu cynllun cefnogaeth a'i fod wedi'i gymeradwyo gan y cyngor, bydd angen hefyd i chi gwblhau asesiad ariannol i weld faint, os unrhyw beth, y mae angen i chi ei gyfrannu at eich cyllideb bersonol.
Byddwn yn cyfrifo'r swm y mae ei angen i chi ei gyfrannu drwy ystyried:
- Eich incwm a'ch cynilion
- Os oes gennych anabledd
- Eich statws priodasol
- Os ydych yn ofalwr
Cysylltu
I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â Gwasanaeth amlddisgyblaeth yw Tîm Pwynt Cyswllt Unigol Oedolion a Phlant Castell-nedd Port Talbot (PCU)
Os ydych yn yr ysbyty, dylech ofyn i siarad â rhywun o dîm gwaith cymdeithasol yr ysbyty.