Uned Gomisiynu Gyffredinol Cyfarwyddiaeth y Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Thai
Mae'r Uned Gomisiynu'n arwain ar gynllunio, datblygu a phrynu gwasanaethau i ddiwallu anghenion gofal a chymorth asesedig oedolion diamddiffyn, plant, pobl ifanc a gofalwyr di-dâl.
Er bod rhai gwasanaethau'n cael eu darparu gan y cyngor yn uniongyrchol, rydym hefyd yn gweithio gyda'r sector preifat, sefydliadau’r trydydd sector, gwirfoddolwyr a chymdeithasau tai.
Amcanion
Ein nod yw sicrhau'r canlynol:
- lle bo'n bosib, rydym yn atal anghenion pobl rhag gwaethygu
- bod pobl sydd ag anghenion asesedig yn derbyn y gofal a'r cymorth y mae eu hangen arnynt
- caiff gwasanaethau eu teilwra at anghenion a chanlyniadau unigolion
- mae gan bobl ddewis a rheolaeth dros y gwasanaethau y mae eu hangen arnynt ac maent yn eu derbyn
- caiff pobl eu cefnogi i adennill neu gynnal y lefelau uchaf o annibyniaeth
- mae pobl yn derbyn gofal o safon
- mae’r gwasanaethau'n cynrychioli gwerth da am arian
- mae gwasanaethau'n gynaliadwy ac yn hyblyg i ddiwallu anghenion ac ateb y galw yn y dyfodol
- caiff gwasanaethau eu comisiynu a'u dylunio mewn ffordd sy'n gyson ag arfer gorau
Manylion Cyswllt yr Uned Gomisiynu
Manylion Cyswllt y Strategaeth Dai
Manylion Cyswllt Cefnogi Pobl
⠀