Dogfen
Model ymarfer yn seiliedig ar gryfderau
Ein gweledigaeth
Rydym yn credu mewn cydweithio gyda theuluoedd, gofalwyr, gweithwyr proffesiynol a chymunedau er mwyn gwneud gwahaniaeth i les pobl. Drwy feithrin cysylltiadau ac ymddiriedaeth, rydym yn gobeithio clywed beth sy’n digwydd ym mywydau pobl mewn gwirionedd. Rydym am roi’r hyder i bobl gredu y gall pethau newid. Rydym yn canolbwyntio ar adeiladu ar gryfderau pobl a datblygu cyd-ddealltwriaeth o sut beth yw bywyd da a sut gallwn weithio tuag at hyn.
Deg egwyddor ein ffordd o ymarfer
1. Sgyrsiau cydweithredol
Mae’r sgyrsiau gorau yn digwydd pan fo pobl yn teimlo eu bod y cael eu clywed. Rydym am feithrin cysylltiadau ac ymddiriedaeth gyda phlant, pobl a theuluoedd drwy sgyrsiau medrus. Os ydym yn clywed beth sy’n digwydd ac yn siarad am y prif bryderon ac anawsterau, gallwn ddechrau deall sefyllfa pobl a chytuno ar sut gallant symud ymlaen yn eu bywydau, gan adeiladu ar yr hyn sy’n gweithio’n dda; ac wrth gwrs helpu pobl i reoli’r pethau sy’n eu dal yn ôl hefyd. Wrth wneud hyn, gallwn ddatblygu darlun o sut beth yw bywyd gwell, a dyma fydd y canlyniad rydym i gyd yn gweithio tuag ato. Nid datrys pethau yw ein rôl, ond lle bynnag y bo modd helpu pobl i newid y rhannau o’u bywydau sy’n achosi problemau. Mae’n rhaid i ni fod yn onest wrth egluro’n pryderon.
2. Grymuso llais yr unigolyn
Rydym yn sicrhau bod cynlluniau a gwaith papur yn cael eu hysgrifennu yng ngeiriau’r plant a’r bobl eu hunain ac yn hawdd i’w deall a’u dilyn. Rhoi cyfle i bobl a theuluoedd ddweud eu straeon a rhannu eu nodau yn eu ffyrdd nhw ac yn eu geiriau nhw. Gan weithio heb farnu, rydym am ddangos parch a charedigrwydd i bobl, gan wrando’n astud a dangos trugaredd ac empathi. Mae hyn yn golygu rhoi lle canolog i unigolion, a gofyn beth sydd bwysicaf iddynt a meddwl sut gallant gyflawni eu canlyniadau personol. Rydym yn gwybod bod y rhan fwyaf o bobl am ddod o hyd i’w hatebion eu hunain a’n gwaith ni yw eu cefnogi a’u cynorthwyo i wneud hynny.
3. Canolbwyntio ar gryfderau
Mae ein cyswllt, camau a chynlluniau’n canolbwyntio ar gydnabod ac adeiladu ar gryfderau pobl (gan gynnwys rhwydweithiau personol, cymdeithasol a chymunedol) ac nid yr hyn nad ydyn nhw’n gallu ei wneud (eu diffygion). Gallwn adeiladu ar y cryfderau hyn i oresgyn yr anawsterau ym mywydau pobl.
4. Seiliedig ar berthynas
Rydym yn gwybod bod y canlyniadau gorau’n cael eu cyflawni wrth i ni weithio gyda phobl, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol i feithrin perthnasoedd sy’n seiliedig ar ymddiriedaeth a pharch: mae rhoi’r amser i ddatblygu a chynnal y perthnasoedd hyn yn hollbwysig. Y perthnasoedd hyn sydd mor bwysig i helpu i leihau amddiffynfeydd pobl a lleihau niwed cudd. Mae ein gweithwyr yn deall bod hyn yn golygu bod yn agored ac yn onest am eu hunain a’u gwaith. Mae angen i weithwyr roi rhan o’u hunain i’r berthynas.
5. Canolbwyntio ar ganlyniadau
Rydym yn canolbwyntio ar ‘yr hyn sydd bwysicaf’ ym mywydau plant a phobl a sut gallwn ddatblygu cyd-ddealltwriaeth o’u canlyniadau/ nodau personol. Mae hyn yn golygu edrych ar sut y gallwn weithio tuag at wella iechyd a lles, gan adeiladu ar gryfderau a galluoedd unigolion, teuluoedd a chymunedau. Mae’n bwysig cofnodi’r canlyniadau hyn mewn iaith sy’n glir a dealladwy i bawb, gan ddefnyddio geiriau’r bobl eu hunain lle’n bosibl. Dylid trafod ac adolygu neu fesur pob canlyniad yn rheolaidd, er mwyn i ni allu cytuno a oes cynnydd yn digwydd. Os yw pethau’n dechrau gwella, mae’n bwysig dweud hynny, ond os nad ydynt, efallai y bydd angen newid pethau eraill.
6. Canolbwyntio ar y teulu cyfan
Mae hyn yn golygu mynd i’r afael â phob angen a risg gydag aelodau’r teulu. Mae hyn yn golygu hefyd bod angen i ni feddwl am gydbwyso anghenion a dymuniadau pob aelod o’r teulu pan fyddant yn meddwl yn wahanol ond cadw ffocws ar y canlyniadau blaenoriaeth i bawb.
7. Cryfderau/ Anghenion blaenoriaeth/ Risgiau
Mae’n rhaid i ni gydnabod a siarad am y pethau rydym fwyaf pryderus amdanynt a’u disgrifio fel ‘risgiau blaenoriaeth’ yn y cynllun. Rydym yn gweithio gydag unigolion, teuluoedd a gwasanaethau cymorth i ddatblygu ‘cynlluniau diogelwch’ a ‘chynlluniau wrth gefn’. Mae’r cynlluniau hyn yn cynnwys yr hyn sydd angen digwydd a phwy allai gynnig cymorth os yw pethau’n dechrau mynd o chwith neu os oes argyfwng yn cychwyn. Rydym yn ceisio diogelu lle’n bosibl a helpu pobl i reoli a chymryd risgiau gofalus i gyflawni eu canlyniadau.
8. Tryloywder
Rydym yn agored ac onest yn ein gwaith, fel bod plant, pobl a theuluoedd yn deall beth rydym yn gweithio tuag ato (canlyniadau) a beth fydd yn digwydd pryd a pham. Rydym yn agored ynghylch yr hyn rydym yn bryderus amdano ac yn gweithio gyda phlant, pobl, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol i weld sut gallwn leihau a rheoli hyn yn well.
9. Sgiliau/Gwybodaeth
Mae gweithwyr yn cael eu hyfforddi i’w helpu i ddatblygu sgiliau cyfathrebu cydweithredol ac yn cael eu cynorthwyo i’w rhoi ar waith. Bydd yr hyfforddiant a’r gefnogaeth hon yn barhaus. Mae sesiynau ymarfer myfyriol gyda mentoriaid a goruchwyliaeth yn cefnogi ymarfer hefyd. Rydym yn defnyddio’r dull seiliedig ar gryfderau i weithio’n fewnol ac yn allanol i sicrhau ein bod yn arwain y ffordd ac yn defnyddio’r un iaith a dull gyda’n gilydd.
10. Myfyrio
Mae’n bwysig ein bod yn myfyrio ac yn barod bob amser i addasu ac ailystyried ein ffordd o weithio. Rydym yn gweithio’n barhaus i ddeall sefyllfa, gan sicrhau bod cynlluniau’n cael eu gwella a’u hadolygu’n rheolaidd i ddod o hyd i ffyrdd o alluogi annibyniaeth a lleihau dibyniaeth ar wasanaethau. Mae ymarfer myfyriol yn sicrhau hefyd nad ydym yn gwneud rhagdybiaethau neu’n gwneud dim mwy na dilyn prosesau, mae’n rhoi cyfle i ni ddysgu a herio ein syniadau. Mae angen i ni sicrhau ein bod yn edrych ar y sefyllfa o safbwynt y plentyn, yr unigolyn a’r teulu’n barhaus.
Camargraffiadau cyffredin
Mae gweithio fel hyn yn llyncu gormod o amser ac nid yw’n cyd-fynd â bywydau gwaith prysur!
Mae gweithio tuag at ganlyniadau’n golygu ein bod yn dechrau’r sgwrs mewn man gwahanol, nid yw’n rhywbeth ychwanegol i’w wneud. Mae’r gwaith hwn yn digwydd yn ystod yr ymweliadau a’r cyfarfodydd parhaus rydym yn eu cynnal yn barod. Gall dod i adnabod pobl a theuluoedd drwy sgyrsiau da arbed amser yn yr hirdymor. Gallwn fynd at wraidd y mater a gweithio tuag at newid y gellir ei gynnal gan ei fod yn canolbwyntio ar yr hyn sy’n iawn ar y pryd i’r unigolyn a’r teulu.
Ni ellir sicrhau canlyniadau gyda phobl ar ddiwedd eu hoes!
Mae’n bwysicach nag erioed deall yr hyn y gallwn weithio tuag ato i helpu pobl a theuluoedd ar adeg mor anodd: rydym yn siarad am bwysigrwydd ‘marwolaeth dda’ yn aml. Gall cynnydd gyda chanlyniadau ymwneud â symud pethau ymlaen ond, gall hefyd olygu gadael i bethau lithro’n ôl (cynnal sefyllfa yw hyn).
Ni allwch weithio tuag at gytuno ar ganlyniadau pan fo gan bobl anawsterau cyfathrebu!
Mae staff medrus yn defnyddio dulliau arsylwi a dulliau eraill i gysylltu â phobl a theuluoedd i ddeall beth sy’n gwneud gwahaniaeth, sut beth yw’r ddynameg deuluol a chytuno ar ganlyniadau.
Mae canlyniadau’n ddrud ac yn golygu rhoi’r hyn sydd ei eisiau ar unigolion a’u teuluoedd yn unig!
Trwy archwilio’r canlyniad/au sydd eu hangen ar bobl a theuluoedd yn drylwyr, gallwn adeiladu ar y cryfderau sydd ganddyn nhw a’r gymuned eisoes. Gallwn fod yn glir os oes angen gwasanaethau ffurfiol a sut maent yn cefnogi darpariaeth canlyniadau. Mae gwaith sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau’n helpu i feithrin annibyniaeth pobl ac yn creu llai o ddibyniaeth ar wasanaethau ffurfiol.
Ni ellir defnyddio canlyniadau mewn Achosion Diogelu!
Mae ymarfer seiliedig ar gryfderau wedi’i ddefnyddio’n llwyddiannus mewn nifer o Achosion Diogelu: mae’n helpu i leihau gwrthwynebiad ac yn galluogi gweithwyr i weithio gyda’r teulu a sicrhau newid.
Mae gweithio fel hyn yn llyncu gormod o amser ac nid yw’n cyd-fynd â bywydau gwaith prysur!
Mae gweithio tuag at ganlyniadau’n golygu ein bod yn dechrau’r sgwrs mewn man gwahanol, nid yw’n rhywbeth ychwanegol i’w wneud. Mae’r gwaith hwn yn digwydd yn ystod yr ymweliadau a’r cyfarfodydd parhaus rydym yn eu cynnal yn barod. Gall dod i adnabod pobl a theuluoedd drwy sgyrsiau da arbed amser yn yr hirdymor. Gallwn fynd at wraidd y mater a gweithio tuag at newid y gellir ei gynnal gan ei fod yn canolbwyntio ar yr hyn sy’n iawn ar y pryd i’r unigolyn a’r teulu.
Ni ellir sicrhau canlyniadau gyda phobl ar ddiwedd eu hoes!
Mae’n bwysicach nag erioed deall yr hyn y gallwn weithio tuag ato i helpu pobl a theuluoedd ar adeg mor anodd: rydym yn siarad am bwysigrwydd ‘marwolaeth dda’ yn aml. Gall cynnydd gyda chanlyniadau ymwneud â symud pethau ymlaen ond, gall hefyd olygu gadael i bethau lithro’n ôl (cynnal sefyllfa yw hyn).
Ni allwch weithio tuag at gytuno ar ganlyniadau pan fo gan bobl anawsterau cyfathrebu!
Mae staff medrus yn defnyddio dulliau arsylwi a dulliau eraill i gysylltu â phobl a theuluoedd i ddeall beth sy’n gwneud gwahaniaeth, sut beth yw’r ddynameg deuluol a chytuno ar ganlyniadau.
Mae canlyniadau’n ddrud ac yn golygu rhoi’r hyn sydd ei eisiau ar unigolion a’u teuluoedd yn unig!
Trwy archwilio’r canlyniad/au sydd eu hangen ar bobl a theuluoedd yn drylwyr, gallwn adeiladu ar y cryfderau sydd ganddyn nhw a’r gymuned eisoes. Gallwn fod yn glir os oes angen gwasanaethau ffurfiol a sut maent yn cefnogi darpariaeth canlyniadau. Mae gwaith sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau’n helpu i feithrin annibyniaeth pobl ac yn creu llai o ddibyniaeth ar wasanaethau ffurfiol.
Ni ellir defnyddio canlyniadau mewn Achosion Diogelu!
Mae ymarfer seiliedig ar gryfderau wedi’i ddefnyddio’n llwyddiannus mewn nifer o Achosion Diogelu: mae’n helpu i leihau gwrthwynebiad ac yn galluogi gweithwyr i weithio gyda’r teulu a sicrhau newid.
Cyd-gynhyrchu/ Partneriaethau
Cyd-gynhyrchu yw un o brif egwyddorion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Mae’n golygu cynnwys a gweithio gyda phlant, pobl, eu teuluoedd, ffrindiau a gofalwyr i wneud yn siŵr bod eu gofal a’u cymorth cystal ag y gall fod. Mae’r Ddeddf yn disgwyl i ni weithio gyda phobl a’u cynorthwyo i gyfrannu mwy at gynllunio a darparu gwasanaethau. Gyda hyn mewn golwg, ynghyd â’r egwyddorion ymarfer a nodir uchod, rydym am glywed gan blant, pobl a theuluoedd a chasglu eu syniadau a’u hawgrymiadau, er mwyn i ni allu llunio ein gwasanaethau a’n hymarfer i ofalu bod pobl wrth wraidd yr hyn rydym yn ei wneud bob amser.
Mae cyd-gynhyrchu’n ddull seiliedig ar asedau o ran gwasanaethau cyhoeddus sy’n galluogi pobl sy’n darparu a derbyn gwasanaethau i rannu pŵer a chyfrifoldeb, a chydweithio mewn perthynas gyfartal, ddwyochrog a gofalgar. Mae’n creu cyfleoedd i bobl gael mynediad at gymorth pan maent ei angen a chyfrannu at newid cymdeithasol. Elfennau allweddol cyd-gynhyrchu gan Rwydwaith Cyd-gynhyrchu Cymru yw:
- Gwerthfawrogi cyfranogwyr ac adeiladu ar eu cryfderau;
- Datblygu rhwydweithiau cydgefnogaeth;
- Gwneud yr hyn sy’n bwysig i bawb dan sylw;
- Creu cysylltiadau lle ceir ymddiriedaeth; rhannu pŵer a chyfrifoldeb;
- Gall pobl sicrhau newid ac mae sefydliadau’n galluogi hyn.
Mae’r rhain yn cyd-fynd yn llwyr ag egwyddorion y Fframwaith Canlyniad fel y trafodir yn y ddogfen hon. Mae’r Ddeddf yn dweud wrthym y dylai cynlluniau gofal a chymorth adlewyrchu’r canlyniadau lles personol sydd wedi’u datblygu gyda phobl sydd angen gofal a chymorth. Rhan o hyn yw i Awdurdodau Lleol gofnodi a mesur cynnydd yn erbyn canlyniadau. Mae pobl yn ganolog i’r fframwaith hwn ac mae’n rhaid iddynt fod yn bartneriaid cyfartal yn eu perthynas gyda gweithwyr proffesiynol. Mae’r gyfraith yn dweud bod yn rhaid seilio asesiadau gofal a chymorth ar y sgwrs rhwng yr ymarferydd a’r unigolyn/ teulu/ffrindiau, er mwyn i ni allu deall y canlyniadau personol mae pobl am eu cyflawni a sut y gellir eu cynorthwyo i’w cyflawni.
Mae tystiolaeth o ymarfer yn dweud wrthym fod sut rydych chi’n gwneud rhywbeth yn gallu bod yn bwysicach na beth rydych chi’n ei wneud. Gall cael gweithiwr cymdeithasol yn dod i fywyd rhywun, heb wahoddiad yn aml, fod yn frawychus iawn i’r bobl a’r plant rydym ni’n gweithio gyda nhw. Mae mynd at wraidd y mater a siarad gyda theuluoedd a phartneriaid a chyfathrebu’r dull mewn modd cyson yn helpu i sicrhau dealltwriaeth gytûn a rennir o ble’r ydym ni nawr, ble rydym ni am fod a’r hyn sydd angen ei wneud i gyrraedd yno.
Mae’r Ddeddf yn disgwyl i ni barhau i gryfhau ein partneriaethau gydag asiantaethau eraill hefyd: mae angen i ni wneud mwy i gydweithio. Mae hyn yn sicrhau bod ein dull seiliedig ar gryfderau’n cael ei ddeall a’i gefnogi ledled yr asiantaethau partner a bod partneriaid yn defnyddio egwyddorion y dull wrth weithio gyda theuluoedd hefyd. Rydym yn cydnabod hefyd bod y teuluoedd rydym yn gweithio gyda nhw yn bartneriaid i ni hefyd a byddwn yn sicrhau bod eu lleisiau, eu safbwyntiau a’u dymuniadau’n cael eu clywed yn iawn gydol yr amser gyda’n gilydd.
Cydnabod trawma a’r effaith y gall profiad bywyd ei chael ar unigolyn
Rydym yn gwerthfawrogi y gall unrhyw un brofi trawma ac y gall llawer o bethau achosi trawma i bobl. Gall rhai gynnwys profiadau brawychus, hiliaeth, anabledd, masnachu pobl, allgau diwylliannol, hiliol neu ryw. Rydym yn gweithio mewn ffordd i atal achosi ail-drawma i bobl trwy eu gwneud i deimlo’n ddiogel, gan roi dewisiadau i bobl a’u grymuso i wneud eu penderfyniadau eu hunain. Rydym yn edrych y tu hwnt i ymddygiad pobl gan ddeall y gall trawma fod yn achos sylfaenol dros ymddygiad pobl ar adegau, gan edrych ymhellach, a chanfod beth sy’n sbarduno teimladau pobl a gweithio drwyddynt gyda thechnegau therapiwtig. Deall yr hyn sy’n bwysig i bobl a hyrwyddo cyfleoedd ar gyfer lles, gwella ac adfer, gyda rôl i bawb.
Dull systemau cyfan
Neges allweddol yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw bod yn rhaid i gyrff cyhoeddus weithio gyda’i gilydd i sicrhau gwelliannau yn lles pobl a chymunedau yng Nghymru. Ffordd bwysig o gyflawni hyn yw sicrhau ein bod yn cydweithio ledled pob maes sy’n bwysig i deuluoedd. Mae Aelodau Corfforaethol a Gweithredol o Awdurdodau Lleol yn rhan o’r bartneriaeth hon ac yn cymryd rhan a chael eu cynnwys yn y gwaith rydym yn ei wneud a’r canlyniadau rydym yn gobeithio eu cyflawni.
Yng Nghastell-nedd Port Talbot, mae’r model seiliedig ar gryfderau nid yn unig yn cael ei gefnogi ond yn cael ei weithredu drwy’r sefydliad cyfan, o Aelodau Corfforaethol, y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol, Penaethiaid Gwasanaethau i’n gweithwyr rheng flaen. Mae hyn yn golygu bod y dull yn cael ei ystyried ym mhob cam o’r gwasanaeth, er enghraifft wrth oruchwylio, ymgynghoriadau achos, cymorthfeydd cyfreithiol ac yn yr holl waith cynllunio a strategol sy’n digwydd ledled y gwasanaeth.
Er mwyn sicrhau nad ydym yn dychwelyd at ffyrdd mwy traddodiadol a hŷn o weithio, mae sefydliadau angen hyrwyddwyr. Yng Nghastell-nedd Port Talbot, mae ein Gweithwyr Cymdeithasol Ymgynghorol yn hyrwyddwyr sy’n cadw llygad ar ddatblygiadau newydd, rhannu arferion da a datblygu’r sgiliau a’r dysgu gyda’u timau. Rydym yn sicrhau bod gan dimau amser i fyfyrio gyda’i gilydd ar eu gwaith, ynghyd â thrwy oruchwyliaeth gan fentoriaid, cymheiriaid a rheolwyr.
Mae’r model hwn yn cysylltu ein dull â gweledigaeth a chyfres o werthoedd sy’n glir, yn hawdd i’w deall ac yn cael eu rhannu ledled y Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol. Mae hyn yn ein galluogi i newid systemau, prosesau a strwythurau, er mwyn iddynt gefnogi yn hytrach na gweithio yn erbyn y ffordd mae angen i ni weithio.
I gyflawni hyn rydym wedi ac yn parhau i hyfforddi llawer o staff a gweithio gyda nhw i drawsnewid ein ffordd o weithio. Mae gennym gymorth parhaus gan hyfforddwyr mewnol sy’n parhau i sicrhau bod y model hwn a’r ffordd o weithio’n cael ei gynnal a’i ddatblygu.
Rydym yn cydnabod bod y dull hwn yn golygu bod angen i ymarferwyr gael amser i feithrin cysylltiadau oherwydd ein bod yn gwybod bod angen amser i sicrhau newid yn aml. Fel gwasanaeth, rydym yn sicrhau’n barhaus bod gan ymarferwyr yr amser sydd ei angen arnynt i ddefnyddio’r sgiliau yn hyderus, y cymorth sydd ei angen i roi rhan o’u hunain yn ddiogel i’r berthynas, meithrin prosesau sy’n cydnabod drwy brofiad, unwaith bod amser wedi’i fuddsoddi yn y dyddiau cynnar, bod amser yn cael ei arbed yn ddiweddarach drwy sgyrsiau tryloyw a gonest.
Mae hyn i gyd yn gofyn am gymorth, arweiniad a hyfforddiant parhaus. Fodd bynnag, rydym yn cynnwys adolygiadau a myfyrio rheolaidd ar draws y gwasanaeth cyfan hefyd i gasglu adborth gan ymarferwyr, asiantaethau partner, teuluoedd a’r bobl rydym yn gweithio gyda nhw. Mae hyn yn sicrhau ein bod yn parhau i symud i’r cyfeiriad cywir ac yn addasu ein prosesau yn ôl y gofyn, gan ein galluogi i fesur pa mor bell rydym wedi dod â beth arall sydd angen digwydd.