Asesiad Poblogaeth Bae'r Gorllewin
Beth ydyw
Yn 2014, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), a ddaeth i rym ym mis Ebrill 2016 ac mae'n trawsnewid y ffordd y mae gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn cael eu cyflwyno yng Nghymru. Mae'n gosod pwyslais cryf ar ofal sy'n canolbwyntio ar y person a phwysigrwydd gweithio ar y cyd, yn ogystal â gofyn i ddarparwyr gwasanaeth ystyried ffyrdd newydd a blaengar i wneud gwasanaethau'n fwy cynaliadwy ar gyfer y dyfodol.
Mae Adran 14A y Ddeddf yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol i gasglu gwybodaeth am anghenion gofal a chefnogaeth y boblogaeth. Gelwir hyn yn asesiad poblogaeth a'i fwriad yw helpu darparwyr gwasanaeth i ddeall mwy am fywydau pobl yn yr ardal a'u galluogi nhw i wneud penderfyniadau gwell a mwy hyddysg am y ffordd y mae gwasanaethau gofal a chefnogaeth yn cael eu cyflwyno.
Ym Mae'r Gorllewin, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, Dinas a Sir Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg (PABM) wedi dod ynghyd â sefydliadau partner yn y trydydd sector i ymgymryd â'r ymarfer hwn, sy'n ystyried:
- yr amrywiaeth a'r lefel o wasanaethau y mae eu hangen i ddiwallu anghenion gofal a chefnogaeth pobl sy'n byw yn y rhanbarth
- lle mae bylchau mewn darpariaeth gwasanaeth, a sut gellir mynd i'r afael â'r rhain
- pha newidiadau sydd eu hangen i wella gwasanaethau yn y dyfodol.
Mae'r asesiad hefyd yn ystyried anghenion cefnogi gofalwyr, yn ogystal ag ystyried yr amrywiaeth a'r lefel o wasanaethau ataliol sydd ar gael ar draws y rhanbarth.
Sut gallaf weld yr wybodaeth a gasglwyd fel rhan o'r asesiad poblogaeth
Cyflwynir cynnwys yr asesiad poblogaeth mewn tair ffordd wahanol.
Dyma nhw:
- gwefan sy'n nodi penawdau allweddol anghenion gofal a chefnogaeth, gwasanaethau a materion ar gyfer ardal Bae'r Gorllewin.
- cyfres o benawdau y gellir eu lawrlwytho ar ffurf PDF, sy'n rhoi disgrifiad manylach o'r canfyddiadau. Gellir dod o hyd i'r rhain ar ddiwedd pob pennod ar y wefan.
- mae cyfres o Adroddiadau Technegol/Papurau Pwnc sy'n cynnwys dadansoddiad manwl o'r dystiolaeth a gasglwyd (ar gael ar gais drwy is-adran 'Cyswllt' ar wefan yr Asesiad Poblogaeth).
Beth sy'n digwydd nesaf
Y cam nesaf fydd datblygu cynllun ardal ar gyfer Bae'r Gorllewin, a fydd yn defnyddio'r wybodaeth a gasglwyd yn ystod yr asesiad poblogaeth i nodi meysydd allweddol o newid a fydd yn cael ei drafod mewn ffordd gyd gysylltiedig dros y blynyddoedd nesaf.
Bydd yr asesiadau poblogaeth yn cael eu hailadrodd bob pedair blynedd a byddant yn cael eu hadolygu yn ystod yr amser hwnnw, gan roi cyfle i bartneriaid Bae'r Gorllewin gynnwys gwybodaeth newydd a sicrhau bod cynnydd yn cael ei fonitro'r effeithiol. Dyma'r tro cyntaf i asesiad poblogaeth gael ei lunio a bydd bylchau mewn gwybodaeth a newidiadau i'w gwneud yn y dyfodol.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am Asesiad Poblogaeth Bae'r Gorllewin, cysylltwch: