Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Seremonïau dinasyddiaeth

I wneud cais i fod yn Ddinesydd Prydeinig, ewch i Wefan y Llywodraeth.

Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwch yn derbyn llythyr oddi wrth y Swyddfa Gartref yn eich cynghori i gysylltu â'r Swyddfa Gofrestru. Bydd y Swyddfa Gartref yn anfon y swyddfa gofrestru llythyr a thystysgrif yn barod ar  gyfer eich seremoni dinasyddiaeth. Hwn yw'r cam olaf o ddod yn ddinesydd Prydeinig.

Cynhelir y seremonïau ar gyfer Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn y Swyddfa Gofrestru yng Nghastell-nedd. Mae'r seremoni ar gyfer hyd at 10 o ymgeiswyr. Bydd y Seremoni yn cael ei gynnal ym mhresenoldeb y Cofrestrydd Uwch-arolygydd a Maer y Fwrdeistref Sirol.

Bydd y gost o seremoni breifat yn £80.00.

Mae'n ofynnol i ddinasyddion newydd i wneud llw neu gadarnhad o deyrngarwch i'r Goron. Bydd y seremoni yn para oddeutu 20 munud  lle byddwch yn derbyn eich tystysgrif Cenedligrwydd a phecyn croeso gan y Swyddfa Gartref.

Ar ôl y seremoni byddwch yn cael eich cyflwyno gyda rhodd i'ch croesawu ac yn cael y cyfle i gymryd eich lluniau eich hun gyda'r Maer.

Nodwch, na allwn archebu lle i chi ar gyfer seremoni nes ein bod wedi derbyn eich tystysgrif gan y Swyddfa Gartref.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â'r Swyddfa Gofrestru