Ffurfio partneriaeth sifil
Mae partneriaeth sifil yn berthynas a gydnabyddir yn gyfreithiol rhwng dau berson. Ar ôl cofrestru, mae partneriaeth sifil yn cynnig yr un hawliau a chyfrifoldebau â phriodas. Mae partneriaethau sifil ar gael i gyplau o'r un rhyw a chyplau rhyw wahanol.
Gwiriwch a allwch ffurfio partneriaeth sifil
Gallwch briodi neu ffurfio partneriaeth sifil yng Nghymru neu Loegr os ydych:
- dros 18 oed neu'n hŷn
- ddim yn briod neu mewn partneriaeth sifil yn barod
- ddim yn perthyn yn agos i'ch partner
Ffurfio partneriaeth sifil
Mae angen dau gam i ffurfio partneriaeth sifil:
- rhoi rhybudd o'ch bwriad i gofrestru
- cofrestru'r bartneriaeth sifil
Rhoi hysbysiad
Mae angen i chi a'ch partner roi rhybudd o'ch bwriad i gofrestru partneriaeth sifil yn y Swyddfa Gofrestru. Mae'n rhaid i chi wneud hyn yn bersonol. Bydd angen i chi wneud hyn hyd yn oed os ydych yn mynd i gofrestru eich partneriaeth sifil yn rhywle arall.
Cofrestru eich partneriaeth sifil
Mae'n bosibl ffurfio partneriaeth sifil yn y Swyddfa Gofrestru, neu mewn lleoliad cymeradwy gyda thrwydded. I gofrestru partneriaeth sifil, mae'n rhaid i chi a'ch partner lofnodi dogfen partneriaeth sifil o flaen dau dyst a chofrestrydd.
Nid oes angen seremoni fel rhan o'r broses gyfreithiol. Os ydych chi am gael seremoni, gallwn gynnig dewis i chi i helpu i wneud y diwrnod yn un arbennig.
Trosi partneriaeth sifil
Gall parau o'r un rhyw droi partneriaeth sifil yn briodas yng Nghymru neu Loegr
Gwneud archeb
Os hoffech archebu dros dro neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni ar 01639 760021.