Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Am yr amlosgfa

Oriau agor

Diwrnod Amser (Gerddi)
Dydd Llun

9.00yb - 5.00yp

Dydd Mawrth 9.00yb - 5.00yp
Dydd Mercher 9.00yb - 5.00yp
Dydd Iau 9.00yb - 5.00yp
Dydd Gwener 9.00yb - 4.30yp
Dydd Sadwrn 9.00yb - 4.00yp
Dydd Sul 11.00yb - 4.00yp

Sul y Mamau, Sul y palmwydd, Sul y Pasg a Sul y Tadau

9.00yb - 4.00yp (Gerddi)

Lleodd

Er ei fod yn cael ei werthfawrogi'n llawn mae colli rhywun annwyl yn anodd ac yn straen mawr, byddai'r Amlosgfa yn cynghori'r cyhoedd ei bod yn dal yn ofynnol o hyd i gynnal asesiad risg o ran mynychu angladdau.

Mae asesiad risg llawn wedi'i gynnal ar y cyd â Swyddogion Iechyd a Diogelwch y Cyngor a Swyddogion Tân ac fe gytunwyd mai'r uchafswm a ganiateir yn y Prif Neuadd / Capel yw 170.  Mae hyn yn cynnwys: Yn eistedd – 135. Sefyll – 35. 

Yn ogystal â hyn bydd 25 person yn cael mynd i'r ystafell aros lle mae sgrin a seinydd yn caniatáu i'r gwasanaeth gael ei arsylwi.

Bydd y seinyddion tu allan yn cael eu troi ymlaen er hwylustod i'r rhai sy'n methu mynd i mewn i'r capel.

Mannau parcio i'r anabl

Mae 8 lle parcio i bobl anabl yn yr Amlosgfa gyda ramp ar gael i gael mynediad i'r prif "ardal aros". 

Mae'r brif swyddfa yn gwbl hygyrch i gadeiriau olwyn yn ogystal â'r prif gapel ynghyd â'r Capel Coffa. 

Capel Coffa

Mae’r Capel Coffa ar agor ar gyfer gwylio Llyfrau Coffa er nad oes modd gweld dyddiau ar wahân i'r dudalen bresennol ar hyn o bryd. Bydd y capel hwn ar gau 30 munud cyn cau’r gatiau.

Gellir gadael teyrngedau o flodau yn y Capel Coffa ac yn y prif gapel, a gellir cadw Fâs Ffenestr a Fâs yr Allor hefyd.

Nodwch fod swyddfa'r Amlosgfa ar gau i'r cyhoedd ar hyn o bryd er bod modd gwneud apwyntiadau yn ôl yr angen.

Gellir cael rhagor o wybodaeth a gwneud ymholiadau cyffredinol, gan gynnwys cofnodion y Llyfr Cofio a cheisiadau / adnewyddiadau i ymylfaen, dros y ffôn ar 01639 883570 neu e-bostiwch margam.crematorium@npt.gov.uk 

Hanes

Crëwyd Pwyllgor Amlosgfa Port Talbot a'r Cylch ar y cyd ar gyfer pedwar Awdurdod lleol a lleolwyd y prosiect pwysig hwn ar lannau ysblennydd cronfa ddŵr Eglwys Nunydd.

Agorwyd Amlosgfa Margam (yr wythfed i'w hadeiladu yng Nghymru) ar 1 Mai 1969. Fe'i lleolwyd ger Cyfnewidfa Margam (pedair milltir i'r dwyrain o Bort Talbot) mae'n gyfleus i briffordd yr A48 (Abertawe i Gaerdydd) a Thraffordd yr M4 (Cyffordd 38) sy'n gyfleus i gyrraedd ac ymadael. Ni ellir gweld y Draffordd o'r Amlosgfa er mwyn cynnal preifatrwydd a thawelwch.

Mae'r Amlosgfa ym Margam yn debyg i brosiectau eraill yn unig o ran y math o Ie ydyw a'r cyfleusterau a ddarperir. Mae'r dyluniad a'r adeilad yn unigryw ac yn wreiddiol; rhoddwyd ystyriaeth broffesiynol a manwl gofalus iawn gan y Penseiri Ymgynghorol, y Peiriannydd a'r Cyd-bwyllgor, heb arbed unrhyw gost nac ymdrech er mwyn darparu gwasanaeth o'r safon uchaf posib.

Bydd Côd Arfer Amlosgfeydd a sefydlwyd gan Ffederasiwn Awdurdodau Amlosgi Prydain (y mae Pwyllgor yr Amlosgfa yn aelod ohono) yn cael ei ddilyn i'r llythyren wrth weithredu Amlosgfa Margam o ddydd i ddydd.

Cysylltwch ag Amlosgfa Margam

Cyfarwyddiadau i SA13 2NR
Amlogsfa Margam
Longlands Lane Margam Port Talbot SA13 2NR pref
(01639) 883570 (01639) 883570 voice +441639883570
(01639) 894940 (01639) 894940 voice +441639894940

Mae'r Uwcharolygydd a'r staff yn darparu cyngor a gwasanaethau i chi pan fydd eisiau arweiniad a gwybodaeth amoch.

Gellir gwneud ymholiadau yn Swyddfa'r Amlosgfa.