Copïau o dystysgrifau
Sut gallaf gael gafael ar gopi o dystysgrif?
Gwneud cais ar-lein am dystysgrif
Gall cwsmeriaid bellach ddefnyddio proses 'chwilio am dystysgrif a'i chwblhau' ar-lein. Mae hyn yn caniatáu i gwsmeriaid chwilio am y manylion cywir cyn cwblhau'r broses gwneud cais am dystysgrif.
Gellir cyflwyno ceisiadau personol yn y Swyddfa Gofrestru (nid oes angen trefnu apwyntiad)
Yn y Swyddfa Gofrestru, gofynnir i chi gwblhau ffurflen gais fer.
Ffïoedd
Darperir copi safonol o dystysgrifau geni, marwolaeth a phriodas o fewn 7 niwrnod gwaith ar ôl derbyn y cais, a'r ffi fydd £12.50 y dystysgrif.
Os bydd angen tystysgrifau ar yr un diwrnod, codir ffi gwasanaeth blaenoriaeth o £38.50 y dystysgrif.
Gallwch gael copi o dystysgrif genedigaeth, marwolaeth neu briodas a ddigwyddodd yng Nghymru neu Loegr ers 1 Gorffennaf 1837 o Swyddfa Gofrestru'r dosbarth lle y digwyddodd.
Ar gyfer cwsmeriaid tramor, sicrhewch fod y sieciau wedi'u nodi mewn arian sterling ac ar fanc Llundain.
Os yw tystysgrif geni ar gyfer rhywun sydd wedi cael ei fabwysiadu, dylid anfon cais i'r:
Adopted Children’s Register
ONS
Smedley Hydro
Trafalgar Road
Southport
PR8 2HH
Ffôn: 0300 123 1837
Os oes angen rhagor o gymorth neu gyngor arnoch, cysylltwch â ni a byddwn yn hapus i'ch helpu.
Mae Hawlfraint y Goron ar dystysgrifau ac ni ddylid eu llungopïo at ddibenion swyddogol.