Pleidleisio drwy'r post
Gall pleidlais drwy'r post gael ei anfon i gyfeiriad cartref y pleidleisiwr neu i'r cyfeiriad lle mae'r pleidleisiwr yn byw/aros ar adeg yr etholiad. Fodd bynnag, am resymau diogelwch, mae'n rhaid i bleidleiswyr drwy'r post presennol roi rheswm os ydynt yn gofyn i'w pleidleisiau drwy'r post gael eu hailgyfeirio.
Gwneud cais i bleidleisio drwy'r post
Os ydych yn gymwys am bleidlais drwy'r post, gallwch drefnu i gael un barhaol neu un dros dro ar gyfer etholiad penodol. Gallwch hefyd drefnu i gael un ar gyfer cyfnod penodol (e.e. pan fydd myfyrwyr oddi cartref ac yn y brifysgol).
Os nad ydych wedi'ch cofrestru eto, gallwch bellach wneud cais i bleidleisio ar-lein
Byddwch yn derbyn ffurflen Datganiad Pleidleisio drwy'r Post y mae'n rhaid i chi ei chwblhau, ac amlen i roi'ch papur pleidleisio wedi'i farcio ynddi. Dychwelwch y ffurflen ac amlen y papur pleidleisio wedi'i selio yn yr amlen ragdaledig mwy a chaiff ei darparu hefyd.
E-bostiwch (elections@npt.gov.uk) neu ffoniwch (01639 763330) y Gwasanaethau Etholiadol i ofyn am ffurflen gais am bleidlais drwy'r post.
Pleidleisio o dramor
Os ydych am i'r bleidlais drwy'r post gael ei hanfon i gyfeiriad tramor, dylech fod yn hyderus y gall y gwasanaethau post ei dosbarthu i chi a'i dychwelyd i'r swyddfa etholiadol berthnasol yn y DU o fewn pum niwrnod gwaith. Os nad ydych yn siŵr y gellir gwneud hyn, y syniad gorau fyddai mynd ati i drefnu pleidlais drwy ddirprwy ar eich rhan.
Ni fydd yr amlen fwy ar gyfer dychwelyd y dogfennau yn amlen ragdaledig os ydych wedi gofyn i'r bleidlais drwy'r post gael ei hanfon i gyfeiriad y tu allan i'r DU.
Sylwer, unwaith y mae papur pleidleisio drwy'r post wedi'i anfon atoch, ni fyddwch yn gallu pleidleisio'n bersonol.
Cyflwyno'ch pleidlais ar amser
Nid yw fel arfer yn bosib anfon pleidleisiau drwy'r post yn gynt nag oddeutu wyth niwrnod gwaith cyn cynnal etholiad. Dylai hyn roi digon o gyfle i'r etholwr lenwi'r papur pleidleisio a'i ddychwelyd drwy'r post i'n swyddfa cyn diwedd y cyfnod pleidleisio ar ddiwrnod yr etholiad. Gellir dychwelyd pleidleisiau drwy'r post â llaw i swyddfeydd y cyngor, neu i orsaf bleidleisio yn yr ardal etholiadol briodol, eto cyn diwedd y cyfnod pleidleisio.
Ni chaniateir i bleidleisiwr sy'n anfon pleidlais drwy'r post bleidleisio'n bersonol mewn gorsaf bleidleisio. Gellir casglu papurau pleidleisio yn lle rhai coll neu rai sydd wedi'u difetha o Swyddfeydd y Cyngor, Port Talbot, hyd at 5pm ar y diwrnod pleidleisio. Yn yr amgylchiadau hyn, gofynnir i bleidleiswyr ddarparu prawf hunaniaeth.