Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Pryd y cynhelir etholiadau

Etholiadau Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot

Caiff cynghorwyr eu hethol unwaith bob pum blynedd yn etholiadau'r cyngor. Mae 60 sedd Cyngor Bwrdeistref Sirol ar gyfer 34 o wardiau etholiadol yng Nghastell-nedd Port Talbot. Bydd yr etholiad Cyngor Bwrdeistref Sirol nesa Mai 2027.

Etholiadau Cynghorau Cymuned/Tref

Caiff cynghorwyr eu hethol unwaith bob pum blynedd yn etholiadau'r cyngor. Mae 250 sedd ar gyfer 52 Cymuned/Ward Gymunedol yng Nghastell-nedd Port Talbot. Bydd yr etholiad Cynghorau Cymuned/Tref nesa Mai 2027.

Etholiad Cyffredinol Seneddol y Deyrnas Unedig

Fel arfer caiff Aelodau Seneddol eu hethol unwaith bob pedair/pum mlynedd pan fydd etholiad yn cael ei alw gan y Prif Weinidog.

Mae’r etholaethau Newydd sy’n cwmpasu’r rhan fwyaf o ardal Cyngor Castell-nedd Port Talbot fel a ganlyn:

Aberafan Maesteg (gan gynnwys wardiau Pen-y-bont ar Ogwr, Caerau, Corneli, Llangynwyd, Dwyrain a Gorllewin Maesteg a’r Pîl).

Castell-nedd a Dwyrain Abertawe (gan gynnwys wardiau Abertawe Bonymaen, Clydach, Llansamlet a St. Thomas)

Mae naw ward etholiadol yn ardal Castell-nedd Port Talbot sy’n ffurfio Pontardawe, Cwm Tawe Uchaf a Chwm Aman hefyd wedi’u symund i etholaeth newydd Brycheiniog Maesyfed a Chwm Tawe.

Etholiadau'r Senedd

Mae Aelodau’r Senedd yn cael eu hethol unwaith bob pum mlynedd ar hyn o bryd. O 2026 bydd hyn yn newid I bob pedair blynedd.

Disgwylir I newidiadau sylweddol i ffiniau’r Senedd a’r system bleidleisio ddod I rym cyn yr etholiadau nesaf a drefnwyd ar gyfer 2026.

Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu

Etholir Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu unwaith bob pedair blynedd. Mae Castell-nedd Port Talbot yn dod o fewn Ardal Heddlu De Cymru ar gyfer yr etholiadau hyn. Bydd yr etholiad nesaf yn 2028.

Is-etholiad

Gall is-etholiad gael ei gynnal ar unrhyw adeg os bydd swydd wag achlysurol yn sgîl, er enghraifft, ymddeoliad aelod etholedig.