Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

ID Pleidleisiwr

Mae Llywodraeth y DU wedi pasio deddf a fydd yn newid y ffordd rydych yn pleidleisio mewn rhai etholiadau.

Nid yw'r ddeddf newydd hon yn berthnasol i etholiadau'r Senedd nac etholiadau llywodraeth leol. Llywodraeth Cymru sy'n pennu'r ddeddfwriaeth ar gyfer yr etholiadau hyn.

Mathau cymeradwy o ID ffotograffig

Bydd angen i chi ddangos ffurf gymeradwy o ID ffotograffig i bleidleisio.

Mae’r mathau mwyaf cyffredin o ddogfennau adnabod a ddefnyddir ac a dderbynnir yn cynnwys:

  • pasbort y DU
  • trwydded yrru
  • cerdyn bws oedolyn hŷn
  • cerdyn bws unigolyn anabl
  • cathodynnau glas

Gweler y rhestr mathau o ID ffotograffig a dderbynnir.

Os yw eich dogfen adnabod â llun wedi dod i ben, caiff ei derbyn ar yr amod bod y llun y dal i edrych yn debyg i chi. Dim ond dogfennau gwreiddiol y gellir eu derbyn.

Os nad oes gennych ID ffotograffig cymeradwy

Os nad oes gennych ffurflen ID gymeradwy, gallwch:

  • Gallwch gyflwyno cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr drwy wefan UK.
  • Gallwch hefyd gyflwyno cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr drwy argraffu a llenwi ffurflen bapur a'i hanfon at y tîm Gwasanaethau Etholiadol.

Yr etholiad nesaf a drefnwyd yng Nghastell-nedd Port Talbot lle bydd angen i chi ddangos dogfen adnabod â llun fydd yr etholiad Senedd y DU ym mis Gorffennaf 2024.

Pleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio

Bydd angen i chi ddangos ffurf gymeradwy o ddull adnabod â llun mewn gorsafoedd pleidleisio pan fydd:

  • Etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu
  • Etholiad Cyffredinol Seneddol o Hydref 2023

Pleidleisio drwy’r post

Os ydych yn dewis pleidleisio drwy'r post, ni fydd hyn yn effeithio arnoch a byddwch yn derbyn eich papurau pleidleisio drwy'r post yn ôl yr arfer.

Pleidleisio drwy ddirprwy

Os na allwch bleidleisio yn bersonol gallwch ofyn i rywun bleidleisio ar eich rhan. Gelwir hyn yn bleidlais drwy ddirprwy.

Dylai eich dirprwy fod yn rhywun rydych yn ymddiried ynddo i bleidleisio ar eich rhan, a bydd angen iddynt dynnu eu llun ID eu hunain.

Os nad oes ganddynt ID â llun, ni fyddant yn cael y papur pleidleisio.

Cael help i wneud cais

I gael rhagor o wybodaeth am ID pleidleisiwr, ewch i wefan y Comisiwn Etholiadol.

Neu cysylltwch â’r tîm Etholiadol yn:

Cyfarwyddiadau i SA13 1PJ
CBSCNPT
Gwasanaethau Etholiadol Canolfan Ddinesig Port Talbot SA13 1PJ pref
(01639) 763330 (01639) 763330 voice +441639763330