Gweithio mewn etholiadau
Ydych chi erioed wedi meddwl am gymryd rhan yn ystod cyfnod etholiadau trwy weithio naill ai mewn gorsaf bleidleisio neu yn ystod y cyfrif?
Mae'r Gwasanaethau Etholiadol bob tro'n gobeithio recriwtio aelodau staff cryf eu cymhelliad a deinamig i lenwi unrhyw swyddi gwag sydd ar gael, a hoffem glywed gennych chi os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan.
Gweithio mewn Gorsaf Bleidleisio
Penodir aelodau staff yr orsaf bleidleisio gan y Swyddog Canlyniadau ac maent yn gyfrifol am gynnal y bleidlais, gan sicrhau y dilynir trefniadau addas ar gyfer pleidleisio.
Ar ddiwrnod yr etholiad, mae staff pleidleisio ar ddyletswydd o 6.00am tan ychydig ar ôl 10.00pm.
Gofynnir i'r holl aelodau staff a gyflogir i weithio mewn gorsaf bleidleisio fynychu sesiwn hyfforddi cyn dechrau eu rôl.
Gweithio yn y Cyfrif
Penodir Cynorthwywyr Cyfrif hefyd gan y Swyddog Canlyniadau, y mae ei rôl yn cynnwys dilysu a chyfrif y pleidleisiau a wnaed yn y gorsafoedd pleidleisio, ynghyd â'r pleidleisiau drwy'r post a dderbynnir cyn y diwrnod pleidleisio.
Gellir dilysu a chyfrif ar ôl i'r gorsafoedd pleidleisio gau (10pm ar y diwrnod pleidleisio), neu'r bore canlynol.
Mae'r cyfrif fel arfer yn digwydd yng Nghanolfan Chwaraeon Castell-nedd, Cwrt Herbert, neu ar gyfer etholiadau lleol, gwneir hyn yn:
- Theatr y Dywysoges Frenhinol ym Mhort Talbot
- Canolfan Hamdden Pontardawe
- Canolfan Hamdden Castell-nedd
Cymhwysedd
I weithio mewn etholiadau, rhaid i chi ddiwallu'r canlynol:
- rydych yn 18 oed neu'n hŷn
- mae gennych hawl i weithio yn y DU
- nid ydych wedi'ch cyflogi gan ymgeisydd posib neu'n perthyn iddo
- nid ydych yn gweithio i ymgeisydd neu barti gwleidyddol, er mwyn i chi weithio fel aelod o staff yr orsaf bleidleisio neu staff cyfrif
Gwneud cais
Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais, cysylltwch â’r tîm etholiadau gan ddefnyddio’r ffurflen ar-lein fer atodedig.
Gweithio mewn etholiadau yn CnPT
Yna anfonir gwahoddiad e-bost atoch a dolen i’r Porth Staffio Etholiadau a fydd yn eich galluogi i sefydlu eich tudalen proffil diogel personol.
Ar ôl cyflwyno cais
Byddwn yn ystyried profiad ac argaeledd pobl, yn ogystal â lle maent yn byw pan fyddwn yn cynnig swyddi.
Mae pob penodiad yn un dros dro ac os byddwch yn llwyddiannus, cewch eich cyflogi gan y Swyddog Canlyniadau (nid Cyngor Castell-nedd Port Talbot)
Nid yw cael eich penodi i weithio mewn etholiad yn gwarantu y byddwch yn gweithio mewn etholiadau yn y dyfodol, ond os na allwn eich penodi'n syth, byddwn yn cadw'ch manylion ar gyfer unrhyw swyddi gwag sy'n codi cyn y diwrnod pleidleisio ac ar gyfer unrhyw is-etholiadau sy'n digwydd yn ystod y flwyddyn, os byddwch yn cytuno i hynny.
Rhagor o wybodaeth
Cyflogir ar gyfer rolau etholiadol achlysurol yn uniongyrchol drwy'r Swyddog Canlyniadau ac nid trwy Gyngor Castell-nedd Port Talbot.
Nid yw amodau a thelerau cyflogai Cyngor CNPT a mynediad at y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yn berthnasol ar gyfer rolau etholiadol achlysurol.
Telir am waith mewn etholiadau ar sail Talu wrth Ennill (PAYE), sy'n golygu y gellir didynnu treth o enillion. Fodd bynnag, mae ffïoedd a delir ar gyfer gwaith mewn etholiadau wedi'u heithrio o gyfraniadau Yswiriant Gwladol.
Mwy o gyngor: