Cymorth i bleidleiswyr anabl
Ein nod yw gwneud yr holl orsafoedd pleidleisio yn hygyrch i bleidleiswyr anabl, er enghraifft:
- rydym yn darparu rampiau lle bo angen
- mae’r Swyddog Llywyddu ar gael i’ch helpu
- bwth pleidleisio wedi'i addasu ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn
- gall ffrind neu berthynas fod gyda chi os oes angen help arnoch
- mae cadeiriau ar gyfer pobl na allant sefyll am gyfnodau hir
Gall staff gorsafoedd pleidleisio hefyd ddarparu cymhorth i helpu pleidleiswyr dall neu rannol ddall:
- teclynnau dal pensil
- chwyddwydrau mawr
- dyfais bleidleisio gyffyrddadwy
- fersiynau print mawr o bapur(au) pleidleisio
- dalen droshaen asetad liw i leihau straen gweledol
Ffurflenni pleidleisio drwy'r post neu ddirprwy
Gall pleidleiswyr ag anabledd gael pleidlais ddirprwy barhaol. Dyma pan fyddwch yn enwebu rhywun i bleidleisio ar eich rhan yn yr orsaf bleidleisio.
Ewch i wefan y Comisiwn Etholiadol am arweiniad a ffurflenni cais ar gyfer:
Gallwch hefyd gysylltu â'r Gwasanaethau Etholiadol.
Gwybodaeth i bleidleiswyr anabl
Darllenwch fwy am hawliau pleidleisio i etholwyr anabl i gael gwybod:
- beth yw pleidleisio
- pam ei fod mor bwysig
- sut gallwch chi bleidleisio
Mae Mencap wedi creu canllawiau i helpu pobl ag anabledd dysgu i ddeall:
- eich hawliau
- cofrestru i bleidleisio
- pam fod eich pleidlais yn bwysig
- sut i bleidleisio mewn etholiadau
- rheolau newydd ar ddulliau ID ffotograffig
Mae gan GOV.UK gwybodaeth i bobl ag anabledd dysgu a'u gweithwyr cymorth.
Sylwer: Mae'r dolenni hyn yn uniongyrchol i wefannau uniaith Saesneg.
Pasbort pleidleisio
Mae pasbort pleidleisio yn ddalen o bapur A4 i'w rhoi i'r staff pleidleisio fel eu bod yn gallu deall yn hawdd yr addasiadau rhesymol sydd eu hangen i alluogi'r person i bleidleisio.
Mae gan bawb ag anabledd dysgu hefyd yr hawl i bleidleisio. Cyn belled â'ch bod yn gallu cyfathrebu dros bwy yr hoffech bleidleisio, gall rhywun gwblhau'r papur pleidleisio i chi.
I gael rhagor o wybodaeth neu i ofyn am basbort pleidleisio, cysylltwch â'r Gwasanaeth Etholiadol.