Y gofrestr etholiadol
Mae swyddogion cofrestru'n cadw dwy gofrestr gyda gwybodaeth a dderbynnir gan y cyhoedd - y gofrestr etholiadol a'r gofrestr agored (a elwir hefyd yn gofrestr olygedig).
Y gofrestr etholwyr
Mae'r gofrestr etholiadol yn rhestru enwau a chyfeiriadau pawb sydd wedi cofrestru i bleidleisio mewn etholiadau cyhoeddus. Defnyddir y gofrestr at ddibenion etholiadol megis:
- sicrhau mai pobl sy'n gymwys i bleidleisio'n unig sy'n gwneud hynny
- canfod troseddau (e.e. twyll)
- cysylltu â phobl i drefnu gwasanaeth rheithgor
- ceisiadau gwirio credyd.
Y gofrestr agored
Mae'r gofrestr agored yn ddetholiad o'r gofrestr etholiadol, ond ni chaiff ei defnyddio ar gyfer etholiadau. Gall unrhyw berson, cwmni neu sefydliad ei phrynu. Er enghraifft, fe'i defnyddir gan fusnesau ac elusennau i gadarnhau manylion enw a chyfeiriad.
Caiff eich enw a'ch cyfeiriad eu cynnwys yn y gofrestr agored oni bai i chi ofyn iddynt gael eu dileu. Nid yw dileu eich manylion o'r gofrestr agored yn effeithio ar eich hawl i bleidleisio.
Dewiswch i allan o'r gofrestr
Os ydych chi'n cofrestru i bleidleisio ar-lein, gallwch glicio ar y blwch os nad ydych am i'ch enw a'ch cyfeiriad ymddangos ar y gofrestr agored.
Gallwch hefyd newid eich dewis i optio allan ar unrhyw adeg trwy wneud cais i staff cofrestru etholiadol lleol gyda'ch enw, eich cyfeiriad llawn ac oes ydych am gael eich cynnwys neu'ch hepgor o'r gofrestr agored. Gallwch chi wneud hyn trwy ddefnyddio'r ffyrdd canlynol:
- Ffôn: 01639 763 330
- E-bost: elections@npt.gov.uk
- Ysgrifennwch: Swyddog Cofrestru Etholiadol, Canolfan Ddinesig, Port Talbot, SA13 1PJ
Archwilio'r gofrestr etholwyr
Mae'r gofrestr etholwyr ar gael i'w harchwilio yng Nghanolfan Ddinesig Port Talbot. Mae'r gofrestr yn agored i'r cyhoedd ei harchwilio, dan oruchwyliaeth.
Prynu'r gofrestr agored
Dim ond fersiwn agored y gofrestr sydd ar gael i'w gwerthu'n gyffredinol. Gellir ei phrynu yn ei chyfanrwydd neu brynu rhan ohoni a gellir ei defnyddio at unrhyw ddiben. Cyfrifir prisiau fel a ganlyn:-
- Ar bapur - ffi weinyddol o £10 ynghyd â £5 am bob 1000 o gofnodion yn y gofrestr
- Ar ffurf data - ffi weinyddol o £20 ynghyd â £1.50 am bob 1000 o gofnodion yn y gofrestr
Os hoffech brynu'r wybodaeth, cysylltwch â'r Gwasanaethau Etholiadol drwy e-bostio elections@npt.gov.uk neu ffonio 01639 763330.