Canfasio Blynyddol 2024
Mae'r gyfraith yng Nghymru wedi newid. Gall pobl ifanc 14-16 oed a gwladolion tramor cymwys sy'n byw yng Nghymru bellach gofrestru i bleidleisio.
Mae'n ofynnol i ni gadw’n cofrestr o bleidleiswyr cymwys yn gyfredol.
O fis Gorffennaf bob blwyddyn, byddwn yn cysylltu â phob aelwyd i weld a yw'r manylion ar y gofrestr etholiadol yn gywir.
Gellir cysylltu â’ch aelwyd drwy:
- e-bost
- ffôn
- post
Gallwch fynd i wefan Y Comisiwn Etholiadol i gael rhagor o wybodaeth am gofrestru i bleidleisio
E-bost Canfasio Blynyddol - Etholwyr 2024
Rydym yn cysylltu ag eiddo yng Nghastell-nedd Port Talbot i gadarnhau pwy sydd wedi cofrestru i bleidleisio.
Bydd e-byst swyddogol yn cael eu hanfon gan ein Tîm Gwasanaethau Etholiadol: neath.port.talbot.electoral.services@notifications.service.gov.uk.
Bydd yr e-bost yn eich cyfeirio i gofrestru'n ddiogel lle gallwch gadarnhau manylion y gofrestr etholiadol ar gyfer eich eiddo.
Os ydych yn diweddaru neu'n cadarnhau eich manylion drwy e-bost, nid oes angen i chi ddychwelyd unrhyw ffurflen canfasio blynyddol bapur y gallech ei derbyn.
Sut i ddiweddaru eich manylion
Mae'n bwysig eich bod yn ymateb i'ch ffurflen cyfathrebiadau canfasio cyn gynted â phosib os oes angen i chi wneud newidiadau.
Gallwch wneud hyn ar-lein drwy ddilyn y cyfarwyddiadau ar y ffurflen a anfonir atoch:
- ewch i'r wefan: diweddaru eich manylion
- côd diogelwch rhan 1 <nodwch y rhif a dderbyniwyd>
- côd diogelwch rhan 2 <nodwch y rhif a dderbyniwyd>
- diweddaru'ch gwybodaeth aelwyd a chyflwyno
Rhaid i chi gynnwys enwau a chenedligrwydd pawb sy'n byw yn y cyfeiriad hwn.
Os ydych yn ychwanegu unrhyw etholwyr newydd bydd angen iddynt gwblhau cais i gofrestru.
Cysylltu â ni
Gallwch gysylltu â ni ar unrhyw adeg o'r flwyddyn i roi gwybod i ni am newidiadau i'ch gwybodaeth yn: