Proses digwyddiadau arbennig
Byddwch yn ymwybodol bod y Tîm Digwyddiadau Arbennig/Tîm Rheoli Digwyddiadau/Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch yn gofyn am chwe mis o rybudd yn ddelfrydol ar gyfer digwyddiadau sy'n debygol o ddenu mwy na 500 o bobl neu sy'n peri risgiau diogelwch sylweddol â llai o bobl yn bresennol. Bydd angen tri mis o rybudd ar yr awdurdod lleol ar gyfer digwyddiadau gyda llai na 500 o bobl yn bresennol a lefelau risg isel.
DS: Mae'r 500 a nodwyd uchod yn cynnwys y staff sy'n bresennol yn y digwyddiad.
Bydd angen i drefnwyr y digwyddiad gofrestru eu digwyddiad trwy gwblhau Ffurflen Cofrestru Digwyddiad (gweler yr adran Dogfennau) a'i dychwelyd i specialevents@npt.gov.uk. Neu gall trefnwyr bostio'r Ffurflen Cofrestru Digwyddiad i Ddigwyddiadau Arbennig, Is-adran Iechyd a Diogelwch Corfforaethol, Y Ceiau, Ffordd Brunel, Parc Ynni Baglan, Castell-nedd SA11 2GG.
Bydd hyn yn ein galluogi ni i werthuso peryglon posib a maint y digwyddiad, a hefyd benderfynu a oes angen i'r Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch ddod yn rhan o'r broses o drefnu'r digwyddiad.
Ambell waith bydd gofyn i chi fod yn bresennol mewn cyfarfod o'r Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch i drafod eich cynigion â'r grŵp os penderfynwyd bod angen ymyrraeth gan y Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch ar eich digwyddiad. Efallai na fydd angen i chi fynd os yw'r digwyddiad yn llai.
Bydd y dudalen Sut i gofrestru digwyddiad yn eich arwain gam wrth gam trwy'r broses o gofrestru a chynnal eich digwyddiad ac yn manylu ar yr wybodaeth arall y bydd ei hangen arnom.