Pethau i'w gwneud
Mae rhywbeth cyffrous yn digwydd yn y lleoliad hwn bob amser. Mwynhewch berfformiadau trwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys:
- arddangosfeydd a ffeiriau
- cynadleddau a seminarau
- cyngherddau
- noson gomedi
- operâu
- pantomeim
- seremonïau a chyflwyniadau
- sioeau cerdd
- sioeau plant
Oriau agor y swyddfa docynnau
Ar-lein
Gallwch archebu tocynnau i'n holl sioeau ar-lein.
Ffôn
Mae llinell ffôn ein swyddfa docynnau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener 10yb–12yp a 1yp–3yp (ac eithrio gwyliau banc). Ffoniwch 01639 763214
Yn bersonol
Mae ein swyddfa docynnau ar agor ddau ddiwrnod yr wythnos ar gyfer archebion personol a chymorth.
Dydd | Amser |
---|---|
Mercher | 10yb-12yp & 1yp-3yp |
Iau | 10yb-12yp & 1yp-3yp |
Beth sydd ymlaen
Dewch i weld pa sioeau a digwyddiadau sydd ymlaen yn Theatr y Dywysoges Frenhinol.
Cyrraedd yma
Parcio
Mae yna nifer o feysydd parcio o fewn pellter cerdded hawdd i'r theatr. Mae’r wybodaeth a’r taliadau canlynol yn berthnasol:
Maes parcio | Lleoedd | Mannau i'r anabl | Pris (Llun-Sadwrn) | Pris (Dydd Sul Trwy'r dydd) |
---|---|---|---|---|
Maes parcio Sgwâr Bethany | 158 | 8 | Llun - Sadwrn | £1.00 |
Maes parcio'r Ganolfan Ddinesig (gyda'r nos ac ar benwythnosau yn unig) |
74 | 6 | Llun - Sadwrn | £1.00 |
Maes parcio aml-lawr Port Talbot (yn cau am 7yh) |
662 | 43 | Llun - Sadwrn | £1.00 |
Maes parcio Heol yr Orsaf | 99 | 8 | Llun - Sadwrn | £1.00 |
Maes parcio'r Santes Fair | 34 | 7 | Llun - Sadwrn | £1.00 |
Trafnidiaeth gyhoeddus
- Gorsaf Drenau agosaf - Parcffordd Port Talbot
- Gorsaf Fysiau agosaf - Canolfan Siopa Aberafan
- Safle Tacsis Agosaf - Canolfan Siopa Aberafan
Bwyd a Diod
Mae amrywiaeth o gaffis a bwytai yn agos at y Theatr. Byddwch yn gallu dod o hyd i lefydd bwyta ar Heol Forge, Heol yr Orsaf ac yng Nghanolfan Siopa Aberafan (yn ystod y dydd yn unig).
Hygyrchedd
Mae croeso i gŵn tywys / cŵn clywed.
Mae gennym dderbynyddion arbennig ar gyfer y rhai sydd â nam ar eu clyw.
Ar gyfer unrhyw ofynion arbennig, archebwch yn uniongyrchol gyda'n swyddfa docynnau fel y gallwn ddarparu ar gyfer eich anghenion unigol.
Hynt
Rydym yn aelod o gynllun Hynt. Mae Hynt yn gynllun mynediad cenedlaethol sy’n gweithio gyda rhwydwaith o theatrau a chanolfannau celfyddydau ledled Cymru. Mae gan ddeiliaid cerdyn Hynt hawl i docyn am ddim ar gyfer Gofalwr neu Gynorthwyydd Personol.