Pethau i wneud
Mae rhywbeth cyffrous yn digwydd bob amser yn y lleoliad hanesyddol hwn. Mwynhewch berfformiadau drwy gydol y flwyddyn yn Neuadd Gwyn, gan gynnwys:
- comedi
- dawns
- perfformiadau cerddoriaeth gyfoes
- sinema
- sioeau plant
- theatr
Oriau agor y swyddfa docynnau - gwyliau ysgol
Dydd | Amser |
---|---|
Llun - Sadwrn | 10.30yb - 8yh |
Sul | 10.30yb - 5yh |
Beth sydd ymlaen
Dewch i weld pa sioeau a digwyddiadau sydd ymlaen yn Neuadd Gwyn.
Parcio
Mae maes parcio ar gael yng nghanol tref Castell-nedd. Mae’r wybodaeth a’r taliadau maes parcio canlynol yn berthnasol:
Maes parcio | Lleoedd | Anabl | Pris (Llun-Sadwrn) | Pris (Drwy'r dydd Sul) |
---|---|---|---|---|
Stryd Fawr | 31 | 6 | Llun - Sadwrn | £1.00 |
Heol Milland | 413 | 37 | Llun - Sadwrn | £1.00 |
Aml-lawr Castell-nedd | 557 | 34 | Llun - Sadwrn | £1.00 |
Stryd Rosser | 31 | 2 | Llun - Sadwrn | £1.00 |
Bwyd a Diod
Mae "Y Lle" yn Neuadd Gwyn yn lleoliad croesawgar o fewn atriwm gwydr hardd.
Mae'r caffi ar y llawr gwaelod yn cynnig amrywiaeth o:
- cacennau
- byrbrydau poeth ac oer
- coffi rhost mân gan Black + White Coffee Co.
- te arbenigol wedi'i weini mewn llestri cain
Gallwch hefyd fwynhau ffefrynnau sinema ac amrywiaeth o ddiodydd yn awditoriwm Neuadd Gwyn.
Aelodaeth Phoenix
Sicrhewch eich aelodaeth flynyddol i fwynhau gostyngiadau anhygoel trwy gydol y flwyddyn.
Cyfleusterau hygyrch
Mae Theatr Neuadd Gwyn yn adeilad Fictoraidd, sydd wedi’i addasu er mwyn cael mynediad haws iddo, gyda:
- cadeiriau gwacáu/cadeiriau olwyn
- croeso i gŵn gwasanaeth / cymorth
- Cynllun cardiau HYNT -digwyddiadau byw
- Cynllun cerdyn CEA - dangosiadau sinema
- derbynyddion arbennig ar gyfer nam ar y clyw
- lleoedd cadeiriau olwyn ar gael ar gais
- mynedfeydd llydan ar gyfer mynediad i gadeiriau olwyn
- mynediad lifft
- toiledau hygyrch ar bob llawr