Pethau i'w gwneud
Mae Canolfan Celfyddydau Pontardawe yn ganolbwynt ar gyfer amrywiaeth o ddigwyddiadau a gynhelir trwy gydol y flwyddyn, megis:
- arddangosfeydd
- cerddoriaeth fyw
- comedi
- dawns
- digwyddiadau plant
- dramâu
- sinema
- theatr
Oriau agor y swyddfa docynnau
Dydd | Oriau'r dydd | Oriau'r nos |
---|---|---|
Llun - Gwener | 10.30yb - 2.45yp | 6.30yh - 8.30yh |
Sadwrn | Ar gau | Ar gau |
Sul | Ar gau | Ar gau |
Beth sydd ymlaen
Edrychwch i weld pa sioeau a digwyddiadau sydd ymlaen yng Nghanolfan y Celfyddydau.
Parcio
Mae maes parcio ar gael yng nghanol tref Pontardawe. Mae’r wybodaeth a’r taliadau maes parcio canlynol yn berthnasol:
Maes Parcio | Lleoedd | Anabl | Tâl (Llun-Sad) | Tâl (Dydd Sul trwy'r dydd) |
---|---|---|---|---|
Maes parcio isaf Stryd Herbert | 17 | 2 | Llun - Sadwrn | £1.00 |
Maes parcio uchaf Stryd Herbert | 35 | 2 | Llun - Sadwrn | £1.00 |
Maes parcio ffordd osgoi Pontardawe | 39 | 5 | Llun - Sadwrn | £1.00 |
Bwyd a diod
Dewch i gwrdd â ffrindiau, cwrdd â phobl newydd neu fwynhau eich hun yn far y theatr. Mwynhewch ddanteithion y sinema yn ogystal â:
- diodydd oer a phoeth
- cwrw lleol
- detholiad o winoedd
Byddwch hefyd yn dod o hyd i ddigonedd o gaffis a bwytai yn agos at y theatr.
Cymryd rhan
Cymerwch ran a chael hwyl gydag un o'n cyrsiau a'n dosbarthiadau.
Cyfleusterau hygyrch
Gweler gwefan Canolfan Celfyddydau Pontardawe am fanylion am eu cyfleusterau hygyrch.