Gerddi Victoria
Mae'r gerddi hyn wedi'u gosod allan yn artistig yn safle golygfaol lle gall y gymuned leol ac ymwelwyr ymlacio a mwynhau'r amgylchedd heddychlon.
Mae hwn yn barc cyfnod Fictorianaidd addurniadol sy'n dal i fod yn driw i'w wreiddiau i raddau helaeth. Wedi'i drwytho mewn dros ganrif o hanes, daethpwyd â sawl nodwedd o wahanol rannau o Gastell-nedd at ei gilydd i'r lle hwn. Dwy enghraifft yw Cerrig yr Orsedd ac adleoli cerflun efydd Howel Gwyn.
Bydd ymwelwyr sydd â diddordeb mewn bywyd gwyllt yn ei chael yn lle tawel i wylio a bwydo'r adar. Mae'r rhain yn cynnwys y robin goch, adar duon, adar y to a'r asgell fraith.
Gan ei fod wrth galon canol tref Castell-nedd, nid yw Gerddi Victoria yn agos at natur yn unig. Mae hefyd yn llwyddo i gadw mewn cysylltiad â'r byd o'i gwmpas. Mae'r orsaf fysiau wedi'i lleoli ar hyd un ymyl y gerddi, ac mae maes parcio o fewn pellter cerdded. Mae gorsaf drenau Castell-nedd gerllaw hefyd.
Mae’r adeilad cymunedol newydd yn ddelfrydol ar gyfer cyfarfodydd, cynadleddau ac arddangosfeydd.
Adeilad Cymunedol
Pwrpas
- Cyfarfodydd
- Cynadleddau
- Arddangosfeydd
- Ffeiriau crefftau
- Defnydd ysgolion
- Partïon plant
- Digwyddiadau teuluol
Cyfleusterau
- Seddi ar gyfer hyd at 20 o bobl
- Taflunydd a sgrîn
- Toiled i'r anabl
- WiFi am ddim
- Drysau plygu sy'n arwain i ardal patio breifat
- Dolen glyw
- Lleoliad canolog sy'n agos at gludiant cyhoeddus a maes parcio
Cost Llogi
- Llogi ystafell hanner diwrnod - £39.00
- Llogi ystafell diwrnod llawn - £76.00
- Llogi ystafell hyd at 2 awr - £22.50
Ni chodir TAW ar logi ystafell