Rhagair
Mae’n bleser gen i gyflwyno Cynllun Dyletswydd Bioamrywiaeth Cyngor Castell-nedd Port Talbot (CCNPT), 2020. Cynhyrchwyd y Cynllun hwn yn dilyn adolygiad o’r camau gweithredu yng nghynllun 2017.
Mae gan Gastell-nedd Port Talbot amrywiaeth o gynefinoedd, o’r arfordir, ar hyd llawr dyffrynnoedd afonydd, ochrau cymoedd coediog, ac ymlaen i rostir pen y bryniau. O ganlyniad, mae’r sir yn gallu bod yn gartref i amrywiaeth lluosog o rywogaethau. Mae’n lle arbennig ar gyfer bioamrywiaeth, ac rwy’n teimlo ei bod yn fraint cael byw a gweithio mewn ardal mor anhygoel.
Mae dyletswydd gyfreithiol ar Gyngor Castell-nedd Port Talbot i gynnal a gwella bioamrywiaeth, ac wrth wneud hynny, i hybu gwydnwch ecosystemau o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Mae’r cynllun hwn yn dangos sut rydym ni’n cyflawni’r ddyletswydd honno. Bydd yn gweithredu fel sbardun ar gyfer gweithgareddau cadwraeth ar draws Castell-nedd Port Talbot.
Mae traddodiad hir o gadwraeth amgylcheddol yn CNPT, ac mae llawer o grwpiau’n ymwneud â hynny. Wrth i ni barhau i weithio gyda’r grwpiau hyn er lles bioamrywiaeth, mae’r cynllun hwn yn nodi’r hyn yr ydym ni, fel Awdurdod Lleol, yn ei wneud i gyflawni’r ddyletswydd gyfreithiol hon.
Yn ddiweddar mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno nifer o ofynion deddfwriaethol newydd i gyrff cyhoeddus ac awdurdodau lleol gydymffurfio â nhw. Nod y rhain yw newid sut rydym ni’n cynllunio ac yn cyflawni gwasanaethau. Maen nhw’n gwneud egwyddorion datblygu cynaliadwy yn ganolog i holl benderfyniadau cyrff cyhoeddus. Mae Cynllun Corfforaethol CCNPT, Ffurfio CNPT 2019-2022, yn cydnabod y gofyniad hwn i newid a’r gwaith paratoadol sy’n angenrheidiol i sicrhau ein bod yn cyflawni ein dyletswyddau statudol. Mae’r Cynllun Dyletswydd Bioamrywiaeth yn amlinellu sut byddwn ni’n cyflawni ein dyletswyddau statudol o ran bioamrywiaeth. Mae hefyd yn esbonio sut rydym ni, trwy hynny, yn cyflawni amcanion llesiant a’r ffyrdd o weithio o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Yn yr oes hon o argyfyngau hinsawdd ac ecoleg, mae CCNPT yn ymroddedig i ddiogelu a gwella bioamrywiaeth wrth gyflawni ein holl swyddogaethau.
Y Cynghorydd Annette Wingrave
Aelod Cabinet ar gyfer Adfywio a Datblygu Cynaliadwy