Geirfa
Termau a chyfeiriadau a fydd o ddefnydd wrth ddarllen y ddogfen hon
Coed Cymru: Sefydliad coetir yng Nghymru sy’n gweithio i wella cyflwr coetir Cymru.
Canolfan Cofnodion Lleol: Canolfan ar gyfer coladu, rheoli a lledaenu data bioamrywiaeth.
MapMate: Meddalwedd cofnodi biolegol
Adnoddau Naturiol:
- a) Anifeiliaid, planhigion ac organebau eraill.
- b) Aer, dŵr a phridd.
- c) Mwynau.
- d) Nodweddion a phrosesau daearegol.
- e) Nodweddion ffisiograffigol.
- f) Nodweddion a phrosesau hinsoddol
Partneriaeth Natur Leol CNPT: Grŵp o unigolion a sefydliadau sy’n gweithio ar y cyd i wella bioamrywiaeth yn CNPT
Datblygu cynaliadwy: Y broses o wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru trwy weithredu, yn unol ag egwyddor datblygu cynaliadwy, mewn modd sy’n ceisio cyflawni’r nodau llesiant.
Egwyddor datblygu cynaliadwy: Gweithredu mewn modd sy’n ceisio sicrhau bod anghenion y presennol yn cael eu diwallu heb beryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.
Confensiwn y CU ar Amrywiaeth Biolegol: Cytuniad amlochrog â thri phrif nod:
- cadw amrywiaeth biolegol (neu fioamrywiaeth);
- defnydd cynaliadwy o’i gydrannau; a
- rhannu manteision sy’n deillio o adnoddau genetig mewn modd teg a chyfartal