Adnoddau naturiol yng Nghastell-nedd Port Talbot
Yn draddodiadol, mae CNPT wedi cael ei gysylltu â diwydiant trwm a chymunedau mwyngloddio. Fodd bynnag, nid yw hynny’n gwneud cyfiawnder â’r amrywiaeth a’r ansawdd rhyfeddol o fioamrywiaeth sy’n bodoli yma. Mae ein daeareg waelodol, daearyddiaeth a hydroleg y sir yn golygu bod modd i lawer o wasanaethau ecosystem pwysig weithio a gwella ein bywydau
Rhai enghreifftiau:
- Mawndir a chorsydd – mae pridd mawn yn dal ac yn storio carbon deuocsid atmosfferig. Mae modd cadw hyn yn y pridd yn barhaol pan yw’r pridd mewn cyflwr da.
- Morfa heli ar yr arfordir – mae’n helpu i wasgaru’r tonnau a’r llanw uchel er mwyn atal llifogydd ac erydiad.
- Gorlifdiroedd yn y dyffrynnoedd – helpu i wasgaru dŵr yn ystod digwyddiadau glawiad uchel, gan leihau llifogydd i lawr yr afon.
- Glaswelltir â chyfoeth o rywogaethau – darparu cynefin hanfodol a chysylltedd ar gyfer peillwyr a bwyd ar gyfer da byw.
- Coetiroedd – helpu i lanhau llygryddion o’r aer, lliniaru llifogydd, lleihau effaith yr ynys o wres mewn amgylcheddau trefol, darparu ocsigen a chynhyrchion pren.
Mae’r cynefinoedd amrywiol hefyd yn cynnig cyfleoedd am swyddi. Mae CNPT yn adnabyddus am ei raeadrau, ei barciau gwledig a glan y môr. Mae’r gweithgareddau hamdden a geir yma yn cynnwys gwersylla moethus, cerdded a beicio mynydd. Mae mynediad hwylus i’r adnoddau hyn yn darparu cyfleoedd i wella iechyd a llesiant.
Mae llawer o safleoedd yn CNPT wedi’u dynodi ar gyfer cadwraeth natur. Mae’r rhain yn cynnwys dynodiadau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.
Mae ein glaswelltir corsiog yn y cymoedd yn cynnal pili palod britheg y gors. Mae eu poblogaethau’n amrywio, felly mae sicrhau cynefin o safon uchel, a chysylltiadau, yn allweddol i gadw’r rhywogaeth yn yr ardal. Mae llawer o waith wedi cael ei wneud gan Gadwraeth Pili Palod i fapio a rheoli’r rhywogaeth hon. Mae’r cynefin hefyd yn bwysig ar gyfer Llygoden yr Yd a’r Dylluan Wen.
Mae ein coetir yn gartref i Foda’r Mêl, aderyn ysglyfaethus prin sy’n arbenigo mewn bwyta cynrhon gwenyn meirch. Anaml iawn y bydd yn paru yn y Deyrnas Unedig, ac mae poblogaeth Castell-nedd yn adnabyddus ac yn cael ei hastudio’n helaeth. Yn ddiweddar, cafwyd hyd i boblogaeth o’r Chwilen Ddaear Las mewn coetir hynafol yn Sgiwen. Dyma’r unig safle yng Nghymru lle cafwyd hyd iddyn nhw. Mae clychau’r gog i’w gweld yn garped gogoneddus bob gwanwyn mewn llawer o’n coetiroedd hynafol.
Mae ein ffeniau a’n camlesi ym Mhant y Sais yn gartref i’r unig boblogaeth yng Nghymru o un o gorynnod mwyaf Ewrop – Corryn Rafft y Ffen. Yma hefyd ceir hyd i’r Rhedynen Frenhinol, un o’r rhedyn mwyaf yn Ewrop. O’r braidd mae’r rhywogaeth honno wedi newid ers 180 miliwn o flynyddoedd. Ceir hyd i ddyfrgwn ar ein holl ddyfrffyrdd.
Mae ein twyni arfordirol yn bwysig ar gyfer planhigion ac infertebratau prin. Mae’r Murwyll Arfor yn blanhigyn deniadol y ceir hyd iddo yn ein twyni tywod, a’i brif gadarnle yn y Deyrnas Unedig yw arfordir Cymru. Hefyd ceir hyd i’r Gardwenynen, un o’n gwenyn prinnaf, ar yr arfordir. Mae CNPT yn gadarnle iddynt hwythau yn ne Cymru. Hefyd ar hyd yr arfordir ceir hyd i’r Glesyn Bach, pili pala lleiaf y Deyrnas Unedig.
Ceir hyd i gorsydd mawn, sy’n bwysig o safbwynt storio carbon, ar lwyfannau’r ucheldir. Maent yn ymffurfio ar gyfradd o 1mm y flwyddyn, o ddeunydd organig sydd wedi pydru’n rhannol. Maent yn gartref i blanhigion megis grug a phlu’r gweunydd, a’r Gwlithlys Crynddail, planhigyn cigysol. Mae niferoedd cenedlaethol bwysig o’r Troellwr Mawr yn bridio ar ein hucheldir.
Rydym hyd yn oed wedi darganfod yn ddiweddar cystal yw ein safleoedd tir llwyd ar gyfer bywyd gwyllt. Ar hyd y llain arfordirol, mae llawer wedi dod yn gartref i niferoedd cenedlaethol bwysig o gornchwiglod sy’n bridio. Ymhellach i’r tir, ymddengys bod ein gwastraff glo yn darparu cynefin y mae mawr alw amdano i rywogaethau a ddadleolwyd o’r arfordir. Hyd yma nodwyd dros 900 o rywogaethau o infertebratau ar wastraff glo. Mae rhai o’r rhywogaethau hyn yn newydd i Forgannwg, i Gymru, i’r Deyrnas Unedig a hyd yn oed i wyddoniaeth!
Gwasanaethau Ecosystem
- Cynnal – mae’n darparu sylfaen ar gyfer pob gwasanaeth arall ac yn cynnwys cylchu maetholion, ffurfio pridd a chynhyrchu sylfaenol
- Darparu – ein holl fwyd, dŵr croyw, pren a ffibr, tanwydd
- Rheoleiddio – glanhau aer a dŵr, rheoli llifogydd, atafaelu carbon
- Diwylliannol – esthetig, ysbrydol, addysgiadol, adloniadol