Cyngor i fyfyrwyr ecoleg
Mae cadwraeth yn faes gwaith cyffrous a heriol sy'n newid yn gyson. Mae'n faes cystadleuol ond mae ffyrdd o wella'ch cyfleoedd i ddod o hyd i swydd.
Mae 3 phrif faes o waith ecolegol y tu allan i'r byd academaidd:
Ymgynghoriaeth ecolegol neu amgylcheddol
Cwmnïau sy'n darparu gwasanaethau ecolegol ar gyfer datblygwyr a sefydliadau'r llywodraeth. Mae'r gwaith yn cynnwys cynnal arolygon a datrys problemau i sicrhau bod datblygwyr yn cydymffurfio â pholisïau a deddfau cyfredol wrth ddatblygu eu prosiectau.
Sefydliadau'r llywodraeth
Mae gan awdurdodau lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru adrannau ecoleg. Mae gan y sefydliadau hyn ddyletswyddau i ddiogelu bioamrywiaeth fel rhan o'u gwaith, felly mae gwaith yn amrywiol a gall gynnwys datblygu polisïau, gwaith gydag arolygon, rheoli safleoedd yn ymarferol, cynyddu ymwybyddiaeth gyhoeddus a chynghori datblygwyr/aelodau'r cyhoedd.
Sector gwirfoddol
Elusennau megis y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar, ymddiriedolaethau bywyd gwyllt a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn bennaf. Mae'r rhain yn canolbwyntio'n bennaf ar reoli ardaloedd o dir i ddiogelu eu bywyd gwyllt a'u cynefinoedd, cynyddu ymwybyddiaeth a datblygu polisïau.
10 Awgrym Da
Profiad Gwaith
Gorau po fwyaf y profiad gwaith sydd gennych. Y ffordd orau i wneud hyn yw trwy wirfoddoli. Mae gan y rhan fwyaf o sefydliadau'r sector gwirfoddol ddiwrnodau gwirfoddoli neu grwpiau y gallwch ymuno â hwy, lleoliadau gwirfoddoli tymor hir neu wyliau gwirfoddoli.
Prosiect Blwyddyn Olaf
Bydd gweithio gyda bywyd gwyllt neu gynefinoedd Prydeinig fel rhan o'ch prosiect blwyddyn olaf yn eich gwneud yn fwy cyflogadwy yn y farchnad Brydeinig na phetaech wedi astudio dramor.
Aelodaeth Broffesiynol
Os gallwch ei fforddio, ymunwch â sefydliad proffesiynol, megis Sefydliad Siartredig Ecoleg a Rheolaeth Amgylcheddol. Drwy wneud hyn, cewch fynediad i gyngor a swyddi a byddwch yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am newidiadau i ddeddfwriaeth/polisïau ac ymchwil.
Sgiliau Adnabod
Efallai na fydd eich cwrs gradd yn eich hyfforddi mewn sgiliau adnabod. Felly achubwch ar bob cyfle i ddatblygu sgiliau o'r fath drwy ddilyn cyrsiau a gynhelir gan sefydliadau cadwraeth.
Trwyddedau
Mae angen trwyddedau gan Lywodraeth Cymru neu Cyfoeth Naturiol Cymru er mwyn arolygu/trin rhai rhywogaethau a warchodir, e.e. y fadfall gribog fwyaf, ystlumod a phathewod. Felly os gallwch fynd ar unrhyw gyrsiau a allai arwain at drwydded, bydd yn eich gwneud yn fwy cyflogadwy, yn enwedig i ymgyngoriaethau ecolegol. Mae'n rhaid cael hyfforddiant gan fentor er mwyn trin a thrafod ystlumod a gall hyn gymryd sawl blwyddyn, felly gorau po gyntaf. Cysylltwch â'r Ymddiriedolaeth Cadwraeth Ystlumod am fwy o wybodaeth. Mae gweithwyr ystlumod sydd wedi'u trwyddedu yn brin, felly byddai'n syniad da nodi ar eich CV eich bod yn dilyn hyfforddiant ar hyn o bryd i gael trwydded ystlumod.
Astudiaeth Bellach
Gall astudio MSc helpu'n aml i lenwi'r bylchau mewn cwrs israddedig. Sicrhewch y bydd eich prosiect yn berthnasol ac yn ddefnyddiol i'r sector a chwiliwch am brosiectau sy'n ymwneud â sefydliadau amgylcheddol/bioamrywiaeth oherwydd byddwch mewn sefyllfa ddelfrydol os bydd unrhyw swyddi ar gael pan fyddwch yno.
Swydd Gyntaf
Byddwch yn barod i weithio ar gontractau tymor byr a symud o gwmpas y wlad i ddod o hyd i waith. Yn y byd gwaith, bydd graddedigion yn aml yn cymryd contractau tymor byr dros yr haf, e.e. helpu gydag arolygon neu brosiectau adleoli i ymgyngoriaethau. Hefyd mae llawer o sefydliadau yn dibynnu ar arian grant sydd ar gael yn y tymor byr yn aml. Ond mae hyn i gyd yn brofiad da a fydd yn sicr o'ch helpu i gael swydd barhaol neu swydd yn agosach i'ch cartref dros y blynyddoedd sydd i ddod.
Cyfweliadau
Nid oes llawer o bobl yn dda mewn cyfweliad. Y peth allweddol i'w gofio mewn cyfweliad yw peidio â chynhyrfu. Mae digon o gyngor ar y rhyngrwyd ynghylch sut i ymddwyn mewn cyfweliad. Dylech bob amser edrych ar wefan y sefydliad cyflogi i weld pa gynlluniau/brosiectau maent yn ymwneud â hwy. Peidiwch ag ystyried y cwestiynau'n ormodol - cofiwch ddweud y pethau amlwg bob amser oherwydd efallai mai hyn yn unig sy'n ofynnol. Os nad oes gennych brofiad mewn maes gwaith penodol, ceisiwch fod yn frwdfrydig dros ddysgu pethau newydd a rhoi enghreifftiau o sgiliau eraill neu brofiad a allai fod yn berthnasol neu sy'n dangos y gallwch fynd i'r afael â heriau newydd.
Manteisiwch ar Unrhyw Swydd
Os oes gennych swydd yn barod, rydych wedi profi eich bod yn gyflogadwy ac yn gallu cyrraedd y gwaith yn brydlon etc. Bydd cyflogwyr eraill yn edrych ar hyn yn ffafriol. Os nad ydych yn gallu cael swydd ym myd ecoleg yn syth, bydd unrhyw swydd yn iawn ar yr amod eich bod yn parhau â'ch gwaith gwirfoddol yn eich amser rhydd.
Peidiwch â Rhoi'r Gorau Iddi
Unwaith rydych yn cael swydd ym maes ecoleg, bydd drysau'n agor. Byddwch yn ei chael hi'n haws i gael y swydd rydych ei heisiau.