Ymlusgiaid a'r gyfraith
Madfallod Cribog Mwyaf
Ceir madfallod cribog mwyaf (Triturus cristatus) mewn dau safle yng Nghastell-nedd Port Talbot - yn Llandarcy ac ym Margam.
Mae'r fadfall gribog fwyaf yn Rhywogaeth Ewropeaidd a Warchodir a chaiff ei gwarchod o dan Atodlen 5 y Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad a Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2010.
Troseddau:
- Lladd, anafu neu ddal madfall gribog fwyaf.
- Tarfu ar fadfall gribog fwyaf yn ei lloches neu yn ei man bridio.
- Rhwystro, difrodi neu ddinistrio mannau lle mae madfallod cribog mwyaf yn byw.
- Meddiannu, rheoli, cludo, gwerthu, cyfnewid neu gynnig gwerthu/cyfnewid unrhyw fadfall gribog fwyaf, boed fyw neu farw, neu unrhyw ran ohoni.
Os gwneir unrhyw weithredoedd sy'n arwain at unrhyw un o'r uchod, bydd yn drosedd yn erbyn y gyfraith.
Eithriadau a rhanddirymiadau:
- Gallwch ofalu am fadfall gribog fwyaf sydd wedi'i hanafu er mwyn ei rhyddhau pan fydd wedi gwella neu gallwch ladd madfall gribog fwyaf sydd wedi dioddef anaf mor ddifrifol fel nad oes unrhyw bosibilrwydd rhesymol y bydd yn gwella.
- Os oes unrhyw weithredoedd neu waith, megis datblygiad ger pwll, yn debygol o effeithio ar fadfallod cribog mwyaf, yna mae'n bosib cael trwydded (rhanddirymiad) gan Lywodraeth Cymru. Bydd hyn yn caniatáu i chi wneud gwaith, gan ddibynnu ar roi amodau a dulliau gwaith penodol ar waith. Mae'n bosib y bydd yn ofynnol darparu mesurau lliniaru, yn enwedig yn achos datblygiadau, e.e. lle ceir gwared ar byllau.
Yn ogystal â'r fadfall gribog fwyaf, mae llyffantod, brogaod, madfallod dŵr balfog a madfallod dŵr cyffredin yn cael eu gwarchod rhag eu gwerthu o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y'i diwygiwyd).
Ymlusgiaid
Caiff pob ymlusgiad yng Nghastell-nedd Port Talbot ei warchod o dan Is-adran 9 Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y'i diwygiwyd).
Troseddau:
- Lladd neu anafu ymlusgiad.
- Masnachu/gwerthu ymlusgiad.
Eithriadau:
Mae'r eithriadau i'r ddeddfwriaeth yn cyfeirio at ganiatáu i bethau ddigwydd sy'n rhesymol, yn anochel neu'n annisgwyl, e.e. gyrru dros neidr ddefaid ar ffordd.