Anifeiliaid eraill a'r gyfraith
Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y'i diwygiwyd) a Rheoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2010 yw'r prif ddeddfwriaethau sy'n gwarchod anifeiliaid.
Mae Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad yn cynnwys darpariaeth ar gyfer gwarchod anifeiliaid gwyllt penodol a restrir yn Atodlen 5 y ddeddf sy'n gwahardd lladd, anafu, cymryd, meddiannu a masnachu anifeiliaid gwyllt yn fwriadol. Yn ogystal â hyn, caiff mannau a ddefnyddir at ddibenion lloches a gwarchod eu diogelu rhag difrod, dinistr a rhwystr bwriadol.
Caiff nifer o rywogaethau a warchodir gan Ewrop eu gwarchod o dan y Rheoliadau Cadwraeth (Cynefinoedd Naturiol) hefyd. Mae'r ddeddfwriaeth hon yn golygu ei bod yn drosedd lladd, dal neu darfu'n fwriadol ar rywogaeth a warchodir gan Ewrop neu ddifrodi neu ddinistrio safle bridio neu fan gorffwys anifail o'r fath.
Mae Deddf (Diogelu) Mamaliaid Gwyllt 1996 yn gwarchod rhywogaethau o famaliaid, yn enwedig rhag creulondeb. Cyflawnir trosedd o dan y ddeddf hon os oes unrhyw berson yn llurgunio, yn cicio, yn curo, yn hoelio, yn trywanu (â chyllell neu rywbeth arall), yn llosgi, yn gwasgu, yn boddi, yn llusgo neu'n mygu unrhyw anifail gwyllt neu'n ei bledu â cherrig â'r bwriad o wneud iddo ddioddef yn ddiangen. Mae nifer o eithriadau: lladd anifail ag anabledd difrifol mewn trugaredd, lladd anifail sydd wedi'i anafu os gwneir hyn mewn modd cyflym a thrugarog, lladd cyfreithlon ag awdurdod e.e. at ddibenion rheoli plâu.
Deddfwriaeth Arall
Mae deddfwriaeth arall sy'n gwarchod bywyd gwyllt, neu grwpiau penodol o fywyd gwyllt, yn cynnwys:
- Deddf Helfilod Daear 1880.
- Deddf Diogelu Anifeiliaid 1911.
- Deddf (Rheoleiddio) y Diwydiant Morfila 1934.
- Deddf Cadwraeth Morloi 1970.
- Deddf Pysgodfeydd Eogiaid a Dŵr Croyw 1975.
- Deddf Anifeiliaid Gwyllt Peryglus 1976.
- Deddf (Gweithdrefnau Gwyddonol) Anifeiliaid 1986.
- Deddf Ceirw 1991.
- Deddf Gwarchod Moch Daear 1992.