Adar a'r gyfraith
Caiff pob aderyn gwyllt ei warchod o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y'i diwygiwyd) pan fydd yn nythu. Yn ogystal, caiff rhywogaethau Atodlen 1 eu gwarchod ar bob adeg.
Troseddau:
- Lladd, anafu neu gymryd unrhyw aderyn gwyllt.
- Cymryd, difrodi neu ddinistrio nyth pan mae'n cael ei ddefnyddio neu ei adeiladu.
- Cymryd neu ddinistrio wyau.
- Meddiannu neu reoli unrhyw aderyn gwyllt (yn farw neu'n fyw) neu unrhyw ran o aderyn gwyllt sydd wedi cael ei gymryd gan dorri Deddf Gwarchod Adar 1954.
- Meddiannu neu reoli unrhyw wy neu ran o wy a gymerwyd gan dorri'r ddeddf.
- Meddiannu neu reoli unrhyw aderyn ysglyfaethus byw o unrhyw rywogaeth yn y byd (ac eithrio fwlturiaid a chondoriaid) oni bai ei fod wedi'i gofrestru a'i fodrwyo.
- Tarfu ar unrhyw aderyn gwyllt a restrir yn Atodlen 1 y ddeddf wrth iddo adeiladu nyth, neu mewn nyth sy'n cynnwys wyau neu gywion, neu darfu ar gywion dibynnol aderyn o'r fath.
Gweler Naturenet am fwy o fanylion ynglŷn â throseddau gwerthu, masnachu, arddangos, caethiwo a chofrestru ar gyfer rheoli/meddiannu rhywogaethau penodol.
Eithriadau:
- Gellir cael trwydded gyffredinol i ganiatáu i rywun ddinistrio neu gymryd nyth o wyau rhywogaethau adar penodol.
- Mewn rhai amgylchiadau, caniateir lladd adar gwyllt (ac eithrio'r rhai a restrir yn Atodlen 1) gyda thrwydded os yw'n angenrheidiol er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd neu ddiogelwch aer, atal clefydau rhag lledaenu neu atal difrod difrifol i dda byw, bwyd i dda byw, cnydau, llysiau, ffrwythau, tyfu coed neu bysgodfeydd.
- Os yw'r person yn hyderus y gellir profi yn y llys bod angen cymryd aderyn wedi'i anafu er mwyn ei wella.
- Gellir cael trwyddedau i gymryd aderyn gwyllt at ddibenion amrywiol, e.e. ymchwil wyddonol, modrwyo, cadwraeth.
Gweler Naturenet am fwy o fanylion am eithriadau ar gyfer adar helwriaeth penodol ac am y rhestr lawn o drwyddedau.
Os gwneir unrhyw weithredoedd sy'n arwain at unrhyw un o'r uchod, bydd yn drosedd yn erbyn y gyfraith. Os caiff troseddwr ei erlyn, gall wynebu dirwyon o tua £1,000 (i bob aderyn neu nyth), ac eithrio troseddau yn erbyn adar yn Atodlen 1 lle gellir rhoi dirwy o £5,000 neu gyfnod yn y carchar.