Bioamrywiaeth a chynllunio
Mae'r system gynllunio yn offeryn pwysig mewn perthynas â chadwraeth natur. Dangosir hyn gan y polisïau a'r ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â bioamrywiaeth a chynllunio. Mae'n bwysig ystyried pob mater bioamrywiaeth fel rhan o geisiadau cynllunio oherwydd gall methu â gwneud hyn arwain at wrthod neu oedi'r cais.
I gael gwybodaeth fanwl am sut i wneud eich cais cynllunio mor ddidrafferth â phosib o ran bioamrywiaeth, lawrlwythwch ein harweiniad Bioamrywiaeth a Chynllunio am ddim. I gael ysbrydoliaeth ar gyfer sut i wella bioamrywiaeth yn eich datblygiad, darllenwch ein harweiniad Gwenyn a Datblygu.