Ystlum y dwr
Mae ystlumod y dŵr yn arbenigo mewn bwydo dros ddŵr. Mae ganddynt draed arbennig o fawr y maent yn eu defnyddio i fachu pryfed oddi ar arwyneb y dŵr. Mae eu clwydfannau yn tueddu i fod mewn coed neu bontydd, ond bob amser ger dŵr.
O ganlyniad i'w harferion bwyta, mae'n hawdd eu gweld ar noson dawel wrth iddynt hedfan uwchben arwyneb afon neu lyn.
Y man gorau i'w gweld = Llyn Parc Gwledig y Gnoll
Am fwy o wybodaeth, ewch i dudalen Ystlum y Dŵr yr Ymddiriedolaeth Cadwraeth Ystlumod.