Tylluan Wen
Mae'r Dylluan Wen yn aderyn a gysylltir â nosweithiau'r haf ar dir amaeth. Mae ei phlu gwyn yn drawiadol pan fydd y dylluan yn hedfan drwy gaeau liw nos. Maent yn adnabyddus am eu galwadau sgrechlyd sy'n swnio'n annisgwyl am aderyn mor hardd.
Gellir dod o hyd i dylluanod gwynion mewn amrywiaeth o gynefinoedd, ond fel arfer cânt eu cysylltu â glaswelltir agored, ffiniau coetiroedd ac ardaloedd o dir amaeth traddodiadol cymysg. Er mai mewn ychydig o safleoedd yn unig y gellir gweld tylluanod gwynion yn CNPT, mae bob amser yn syniad da cadw llygad amdanynt os ydych yn teithio drwy dir amaeth gyda'r nos neu'n gynnar yn y bore.
Y man gorau i'w gweld = Blaendulais
Am fwy o wybodaeth, ewch i dudalen Tylluan Wen yr RSPB.