Murwyll arfor
Mae murwyll arfor yn blanhigyn deniadol sy'n tyfu mewn twyni tywod. Mae ganddo flew llwyd dros y dail a'r coesyn sy'n cyd-fynd yn hyfryd â'r blodau lelog gwan a welir o fis Mehefin i fis Awst. Fe'i cysylltir â thwyni symudol, yn enwedig mewn ardaloedd â moresg, celyn y môr a thaglys arfor.
Mae nifer y planhigion yn amrywio'n sylweddol o un flwyddyn i'r llall, ond mae sawl poblogaeth hysbys rhwng Pen-y-bont ar Ogwr a Gŵyr. Ystyriwyd bod y rhywogaeth wedi darfod ym Morgannwg ym 1848, ond fe'i darganfuwyd unwaith eto yn Nhwyni Crymlyn ym 1964.
Y man gorau i'w weld = Little Warren
Am fwy o wybodaeth, ewch i dudalen Murwyll Arfor Atlas Planhigion Prydain ac Iwerddon Ar-lein.