Gylfingroes
Mae gan y llinosod mawr hyn liwiau trawiadol: mae'r adar gwryw yn goch llachar a'r rhai benyw yn wyrdd. Fodd bynnag, gall fod yn anodd cael cip arnynt. Edrychwch i fyny i frigau conwydd lle maent yn bwydo ar foch coed gan eu hagor gyda'u pigau sydd wedi'u haddasu'n arbennig.
Yn CNPT, y lle gorau i'w gweld yw mewn planhigfeydd conwydd. Gallech fod yn lwcus iawn a'u gweld yn dod lawr i'r ddaear i yfed o bwll.
Y man gorau i'w gweld = Coedwig y Creunant
Am fwy o wybodaeth, ewch i dudalen Gylfingroes yr RSPB.