Glas Y Dorlan
Adar bach glas ac oren llachar yw gleision y dorlan sy'n hawdd eu hadnabod. Maent yn byw ger dŵr llonydd neu ddŵr sy'n symud yn araf. Maent yn hedfan yn gyflym ac yn isel dros ddŵr. Maent yn pysgota o glwydi ar lan yr afon, ac yn hofran weithiau uwchben wyneb y dŵr.
Maint aderyn y to'n unig ydynt gyda choesau byr a phen a phig mawr. Mae hyn yn rhoi proffil unigryw iddynt. Mae'u golwg wedi'i addasu'n bwrpasol i'w galluogi i weld eu hysglyfaeth o dan y dŵr.
Y lle gorau i'w gweld yw ar hyd camlas. Byddwch yn clywed eu galwad 'tshrî' main cyn eu gweld yn saethu heibio uwchben y dŵr. Os ydych yn lwcus, efallai y gwelwch un yn eistedd ar glwyd uwchben y dŵr yn chwilio am ysglyfaeth.
Y man gorau i'w gweld = Camlas Nedd.
Am fwy o wybodaeth, ewch i dudalen Glas y Dorlan yr RSPB.