Gardwenynen feinllais
Mae'r wenynen hon yn brin iawn, ac mewn llond llaw o leoedd yn unig yn y DU maent i'w cael. Mae CNPT yn gadarnle yn ne Cymru ar gyfer y rhywogaeth. Mae'r gwenyn hyn yn eithaf anodd eu hadnabod, ond wrth edrych yn fanwl gallwch weld y prif nodweddion: lliw melyn golau â band brown tywyll rhwng gwaelod yr adenydd a chynffon melyngoch. Mae'r breninesau'n hedfan yn gyflym iawn gan greu si uchel ei draw.
Mae glaswelltir arfordirol CNPT yn ardal bwysig i'r rhywogaeth. Cynefinoedd blodau gwyllt sydd orau ganddynt megis twyni tywod, gyda phlanhigion â chorola hir, e.e. y gorudd.
Y man gorau i'w gweld = Llwybr yr arfordir o gwmpas Baglan
Am fwy o wybodaeth, ewch i dudalen Gardwenynen Feinllais yr Ymddiriedolaeth Cadwraeth Gwenyn.