Britheg werdd
Mae'r iâr fach yr haf hon yn fawr iawn, gyda phatrymau oren a du llachar ar ran uchaf ei hadenydd a sglein gwyrdd oddi tanynt. O blith y planhigion bwyd sy'n bwysig i'r lindys mae'r rhai yn nheulu'r fioled. Gall hedfan yn gyflym ond mae ei faint yn golygu ei fod yn hawdd ei weld. Gwelir yr ieir bach yr haf hyn ar laswelltiroedd â llawer o flodau.
Y man gorau i'w gweld = GNLl Tomen y Bryn
Am fwy o wybodaeth, ewch i dudalen Britheg Werdd Gwarchod Glöynnod Byw.