Boda'r Mel
Mae bodaod y mêl yn adar ysglyfaethus dirgel a phrin. Byddant yn treulio'r gaeaf yn Affrica gan fridio yn y DU mewn niferoedd bach iawn. Maent yn adnabyddus am y ffaith iddynt ymaddasu i fwyta pryfed, gan ffafrio'r cynrhon yn nythod gwenyn a gwenyn meirch. Maent hefyd yn bwyta mamaliaid bach ac ymlusgiaid.
Gellir eu gweld o fis Mai i fis Awst. Yng Nghastell-nedd, rydych yn fwyaf tebygol o'u gweld yn hedfan fry uwchben Cwm Nedd.
Y man gorau i'w gweld = Cwm Nedd
Am fwy o wybodaeth, ewch i dudalen Boda'r Mêl yr RSPB.