Partneriaeth Natur CNPT
Mae Partneriaeth Natur CNPT yn cynnwys cynrychiolwyr o amrywiaeth eang o sefydliadau ynghyd ag unigolion â diddordeb mewn bywyd gwyllt lleol a rheoli tir, a gall unrhyw un ymuno â hi. Mae'r Tîm Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt yn darparu'r ysgrifenyddiaeth a cheir cadeirydd annibynnol. Mae aelodau'r bartneriaeth yn gweithredu dros natur o gwmpas y sir, fel y canlynol:
- Mae Gwirfoddolwyr Amgylchedd Afan yn rhedeg grwpiau gwaith i reoli dolydd yng Nghwm Afan.
- Mae'r cyngor yn rheoli tri pharc lleol, pump gwarchodfa natur leol a llawer mwy o safleoedd ar gyfer natur.
- Mae Grŵp Amgylchedd Bryncoch wedi bod yn cynnal patrolau llyffantod yn y gwanwyn am 15 mlynedd, gan achub dros 800 o lyffantod yn 2019.
- Mae Buglife a Coed Cadw yn gweithio gyda'i gilydd i gadw'r Chwilen Ddaear Las yn Sgiwen.
- Cynhelir y prosiect mawr Adfer Mawndiroedd, yn ein huwchdiroedd.
A llawer mwy!
Mae Partneriaeth Natur CNPT yn adolygu cyflwr natur yn CNPT ar hyn o bryd. Bydd yr adolygiad yn dylanwadu ar Gynllun Gweithredu Adferiad Natur CNPT, a gaiff ei gyhoeddi yn 2021.
Bydd Cynllun Gweithredu Adferiad Natur CNPT, drwy waith partneriaeth a'r broses gynllunio, yn addo gwarchod a gwella unrhyw rywogaeth neu gynefin yn CNPT sy'n:
- Cael ei warchod gan gyfraith Ewrop neu'r DU,
- Wedi'i restru ar restr Llywodraeth Cymru o gynefinoedd a rhywogaethau sydd o'r pwys pennaf yng Nghymru (a adwaenir fel rhestrau Adran 7.)
- Neu sydd o bwys lleol arbennig ac wedi'i ddewis yn benodol gan Bartneriaeth Natur CNPT.
Am ragor o wybodaeth am y rhywogaethau sydd ar gael yn CNPT, cysylltwch â Chanolfan Cofnodion Bioamrywiaeth De-ddwyrain Cymru.
Ariennir swydd cydlynydd y Bartneriaeth Natur Leol gan brosiect PNL Cymru, prosiect 3 blynedd a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac a gydlynir gan CGGC. Ceir rhagor o wybodaeth yn lnp.cymru