Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Dogfen

Cynllun Caru Gwenyn CNPT

Dull newydd o reoli lleiniau ymyl ffordd a glaswelltir yn CNPT

Yn y blynyddoedd diwethaf, mae colli cynefinoedd glaswelltir blodau gwyllt a’r pryfed peillio maen nhw’n eu cynnal wedi dod yn fater o bryder i’r cyhoedd. Mae gan Gyngor CNPT gyfrifoldeb i fynd i’r afael ag argyfyngau natur a hinsawdd ac mae hefyd wedi ymrwymo i ddiogelu, cadw a gwella ein hamgylchedd naturiol o dan amodau’r Cynllun Corfforaethol, y Cynllun Dyletswydd Bioamrywiaeth, Cynllun Gweithredu Adfer Natur CNPT a Chynllun Gweithredu Cymru ar gyfer Pryfed Peillio.

Cymeradwywyd dull newydd o reoli lleiniau ymyl ffordd a glaswelltiroedd CNPT gan Fwrdd Cabinet Adfywio a Datblygu Cynaliadwy y Cyngor Sir ar 30 Gorffennaf 2021 ac mae’n cael ei weithredu’n gynyddol wrth i adnoddau ganiatáu hynny.

Mae egwyddorion y dull gweithredu hwn fel a ganlyn:

  • Cynyddu arwynebedd a chwmpas glaswelltir blodau gwyllt (h.y. lleiniau ymyl ffordd a dolydd mwy o faint sy’n cael eu rheoli er mwyn annog blodau gwyllt a phryfed peillio) ym Mwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, er mwyn cefnogi Dyletswydd Bioamrywiaeth y Cyngor a Chynllun Gweithredu Adfer Natur CNPT.
  • Ffafrio newid dull rheoli dros hau neu blannu, lle bydd hynny’n bosibl, er mwyn annog y gronfa o hadau brodorol i ffynnu heb gyflwyno rhywogaethau estron neu rywogaethau na fyddent yn digwydd yn naturiol yn yr ardal
  • Dosbarthu holl leiniau ymyl ffordd CNPT erbyn 2026 yn unol â’r categorïau canlynol. Darperir rhagor o wybodaeth am bob categori yn nes ymlaen yn y ddogfen hon.
    1. Toriad Neithdar
    2. Toriad Cadwraeth
    3. Toriad Dôl
    4. Llain Welededd
    5. Toriad Amwynder
  • Rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd â chymunedau lleol CNPT

Mae Cynllun Caru Gwenyn CNPT yn cynnwys ardaloedd glaswelltir ar safleoedd sy’n eiddo cyhoeddus a lleiniau ymyl ffordd, ac mae’n ymhelaethu ar y ‘Cynllun Cadwraeth Lleiniau Ymyl Ffordd’ blaenorol a fu ar waith ers 2004.

Sut mae ecosystemau glaswelltir yn gweithredu

Mae glaswelltir blodau gwyllt o ansawdd uchel (h.y. lle ceir cryn amrywiaeth o rywogaethau) yn bodoli yn naturiol mewn pridd prin ei faethynnau, lle mae’r dull rheoli yn sicrhau nad yw’r maethynnau yn y pridd yn caniatáu i blanhigion mwy cystadleuol, fel danadl a gweiriau, drechu planhigion eraill. Mae union natur y glaswelltiroedd hyn yn dibynnu ar nifer o ffactorau, gan gynnwys y math o bridd a’i gynhwysiad dŵr. Yn CNPT, mae gennym nifer o wahanol gynefinoedd glaswelltir, sy’n cynnwys glaswelltir niwtral, glaswelltir corsiog a glaswelltir asidig.

Mae gofyn rheoli glaswelltiroedd blodau gwyllt, yn draddodiadol trwy dorri neu bori, rhag iddynt dyfu’n fras (yn gyforiog o faethynnau) a throi’n goetir yn y pen draw.

Er mwyn sicrhau amrywiaeth mawr o rywogaethau ar laswelltir blodau gwyllt, mae angen i’r torion gael eu clirio ar ôl torri er mwyn cadw lefel maethynnau’r pridd yn isel ac mae angen gadael i’r glaswelltir flodeuo am y tymor blodeuo cyfan nes bod y broses hadu wedi’i chwblhau, rhwng Ebrill ac Awst fel rheol. Mae modd pentyrru’r torion yn domenni compost i greu cynefin ar gyfer rhywogaethau fel neidr y gwair, eu defnyddio i greu gwair, neu eu cludo i safle ailgylchu gwastraff gwyrdd.

Sut mae ein dull rheoli yn newid

Yn draddodiadol, mae’r holl leiniau ymyl ffordd sydd gennym yn CNPT yn cael eu torri bob 2-3 wythnos yn ystod y tymor tyfu, h.y. rhwng diwedd Mawrth a diwedd Medi ac mae’r torion yn cael eu taenu a’u gollwng ar ben y glaswellt. Mae hyn yn rhoi gwrtaith i’r pridd ac yn annog rhagor o laswellt i dyfu. O 2021 ymlaen byddwn yn newid y dull rheoli hwn mewn lleoliadau penodol gyda’r Is-adran Gwasanaethau Gofal Stryd ac yn mynd ati, yn lle hynny, i annog blodau gwyllt i dyfu ac yn lleihau amlder y gwaith torri sy’n angenrheidiol trwy ddefnyddio peiriannau ‘torri a chasglu’.

Dull rheoli traddodiadol ‘Torri a Gwasgaru’

  1. Mae’r peiriant yn taenu wrth dorri’r glaswellt ac mae’r maethynnau’n dychwelyd i’r pridd
  2. Mae mwy o laswellt yn tyfu, yn gyflymach, ac yn cystadlu’n llwyddiannus yn erbyn rhywogaethau eraill
  3. Mae angen torri’r glaswellt eto cyn pen 2-3 wythnos

Dull rheoli ‘Torri a Chasglu’

  1. Mae’r peiriant yn casglu’r torion wrth fynd, ac yn raddol yn lleihau’r maethynnau sy’n sbarduno’r glaswellt i dyfu
  2. Nid yw’r glaswellt yn tyfu mor gryf, nid oes angen ei dorri mor aml ac mae’r amrywiaeth o flodau gwyllt yn cynyddu

Yn ogystal â rheoli glaswelltiroedd ar safleoedd sy’n eiddo cyhoeddus er mwyn annog blodau gwyllt, ein bwriad yw bod yr holl leiniau ymyl ffordd yn CNPT, ar ddiwedd pum mlynedd, yn cael eu rheoli mewn un o’r ffyrdd canlynol:

'Toriad Neithdar’

Bydd y drefn dorri ar gyfer pob llain ymyl ffordd lle mae glaswellt byr yn ddymunol yn newid o gylch torri bob 2-3 wythnos i gylch pedair wythnos a fydd yn caniatáu i blanhigion sy’n blodeuo am gyfnod byr gwblhau eu cylch blodeuo llawn a chynyddu’r neithdar sydd ar gael i bryfed. Lle bydd hynny’n bosibl, byddwn yn clirio’r torion er mwyn lleihau’r maethynnau yn y pridd. Mae’r drefn hon yn seiliedig ar waith ymchwil gan Plantlife (Plantlife No Mow May 2020NB1). Bydd y cylch hwn yn dal i olygu bod rhywogaethau sy’n blodeuo am gyfnod byr yn cael eu torri ond bydd y cynllun yn gweithio ar yr egwyddor y bydd ffynhonnell ddigonol o neithdar ar ôl yn yr ardal ehangach i ddarparu enillion net i beillwyr.

‘Toriad Cadwraeth’

Ni fydd rhai lleiniau ymyl ffordd yng nghefn gwlad, e.e. ar lonydd rhwng pentrefi, yn cael eu torri yn ystod y tymor blodeuo (Ebrill-Medi). Byddwn yn ceisio cynnwys cynifer o leiniau ymyl ffordd â phosibl yn y dosbarthiad hwn yn unol â chyfyngiadau’r gweithlu.

‘Toriad Dôl’

Yn debyg i’r toriad cadwraeth ond bydd safleoedd penodol yn cael eu dethol ar gyfer dull rheoli dôl, h.y. defnyddio peiriant torri a chasglu, gadael y torion mewn pentyrrau ar y safle, peidio â thorri’r gwair rhwng Ebrill ac Awst a thorri ar hyd yr ymylon i’w cadw’n daclus. Bydd unrhyw ddynodiad o’r fath yn ddibynnol ar sicrhau lle addas i adael torion ar y llain ymyl ffordd.

‘Llain Welededd’

Torri’n rheolaidd yn ôl y gofyn.

Toriad ‘Amwynder’

Lleiniau ymyl ffordd a ddefnyddir fel mannau agored cyhoeddus ac y mae gofyn eu torri’n rheolaidd.

 

Yn y flwyddyn gyntaf (2021), nodir nifer o safleoedd ym mhob ward er mwyn treialu’r cynllun hwn. Staff y Gwasanaethau Cymdogaeth a’r tîm Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt fydd yn cytuno ar y safleoedd, a gaiff eu cymeradwyo wedyn gan yr aelod lleol cyn eu cynnwys yn y cynllun.

Ar ddiwedd 2021, gosodir targedau cynnydd ar gyfer pob blwyddyn, gan arwain at y bumed flwyddyn, pan fydd yr holl leiniau ymyl ffordd wedi’u dosbarthu ac yn cael eu rheoli’n briodol. Bydd modd newid dosbarthiad ardaloedd os bydd gofyn mewn ymateb i waith monitro.

Y flaenoriaeth yn y lle cyntaf fydd cynyddu nifer y lleiniau ymyl ffordd sy’n derbyn toriad dôl a threialu dull gweithredu Toriad Neithdar cyn cyflwyno hwnnw ymhellach. Bydd hyn yn caniatáu i ni gyflwyno’r newidiadau fesul cam ac yn rhoi amser i ni addasu yn sgîl adborth / pryderon yr aelodau, newid arferion staff a mynd ati’n raddol i newid peiriannau pan fydd angen eu hadnewyddu.

Ffigur 6 Peiriant torri a chasglu ar waith

Beth gallwch ei ddisgwyl

Wrth i ni newid a mabwysiadu’r dull rheoli Toriad Neithdar, Toriad Dôl neu Doriad Cadwraeth, gallwch ddisgwyl gweld mwy o flodau gwyllt!

Gallech ddechrau gweld y blodau gwyllt canlynol yn ymddangos ar eich llain ymyl ffordd leol. Bydd y rhywogaethau penodol y gallech eu gweld yn dibynnu ar ffactorau fel y math o bridd a’r adeg o’r flwyddyn a byddant yn amrywio ar draws y sir.

Byddem wrth ein bodd yn gweld beth sy’n dod i’r golwg ar eich lleiniau ymyl ffordd a’ch ardaloedd glaswelltir chi!

Peidiwch â disgwyl

Ni fyddwn yn defnyddio hadau cymysg fel y rhai yn y llun isod. Er bod y rhain yn edrych yn hardd ar yr olwg gyntaf, nid ydynt o fudd mawr i natur. Amlinellir rhai o’r problemau sy’n gysylltiedig â defnyddio’r hadau cymysg hyn isod:

  • Cymysgedd o flodau unflwydd y mae angen eu hadnewyddu bob blwyddyn yw’r rhain sy’n golygu defnyddio llyswenwyn, aflonyddu ar y pridd ac ail-hau dro ar ôl tro. Dylid osgoi defnyddio llyswenwyn bob amser lle bydd hynny’n bosibl. Mae’r dull hwn yn anghynaliadwy yn y tymor hir.
  • Mae’r mwyafrif helaeth o’r rhywogaethau lliwgar yn yr hadau unflwydd cymysg yn rhai estron na fyddent yn digwydd yn naturiol yn CNPT (nac yn y Deyrnas Unedig!). Gallan nhw ddisodli’r blodau gwyllt brodorol nodweddiadol sydd eisoes yn y gronfa o hadau a thanseilio’r amrywiaeth rhyfeddol o flodau gwyllt lleol, nodweddiadol rydym mor ffodus i’w cael yn CNPT. Gall rhywogaethau estron hyd yn oed fod yn dra ymledol os cânt eu cyflwyno yn y man anghywir, gan roi pwysau sylweddol ar fioamrywiaeth leol.
  • Cylch cyfyngedig sydd gan lawer o’n peillwyr arbennig ac maen nhw wedi ymaddasu’n arbennig i fwydo ar blanhigion penodol. Mae peillwyr yn ffynnu ar flodau brodorol yn yr ardal y maent yn byw ynddi, h.y. y blodau y maen nhw wedi ymaddasu orau iddynt. Felly, ni fyddai cyflwyno hadau cymysg sy’n cynnwys rhywogaethau nad ydynt i’w cael yn gyffredinol yn y rhanbarth yn gwneud ond ychydig neu ddim lles i beillwyr brodorol y rhanbarth hwnnw.

Ein nod, felly, yw annog y gronfa o hadau brodorol i ffynnu trwy newid ein dull rheoli. Hwn yw’r dull mwyaf cynaliadwy o gynyddu arwynebedd a chwmpas glaswelltiroedd blodau gwyllt yn CNPT. Byddwch yn synnu’n aml at yr hyn sy’n dod i’r golwg, fel y tegeirianau a ymddangosodd ar y llain ymyl ffordd hon yn Longford pan ataliwyd y gwaith torri glaswellt dros dro oherwydd cyfyngiadau symud COVID!

Ffigur 7 Peidiwch a disgwyl hadau unflwydd cymysg

Y manteision

Costau

Rydym yn gobeithio y bydd y dull gweithredu hwn, gydag amser, yn rhyddhau mwy o adnoddau i roi sylw i anghenion eraill o ran gofal stryd, fel sbwriel, tipio anghyfreithlon a glanhau arwyddion, ond mae’n bosib y bydd angen gwario i ddechrau, er enghraifft, ar waredu gwastraff gwyrdd a phrynu peiriannau am y tro cyntaf. Prynwyd un peiriant torri a chasglu yn barod trwy Gronfa Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru. Gallai’r dull hwn hefyd arwain at fanteision cudd yn sgîl ailgyfeirio ein timau mewnol at dasgau gofal stryd eraill fel codi sbwriel. Bydd y gofynion o ran adnoddau ariannol a’r gweithlu yn cael eu monitro a’u hadolygu’n barhaus wrth i’r cynllun fynd yn ei flaen. Os bydd yn arwain at arbedion yn y pen draw, gorau oll.

Amgylchedd gwell

Wrth i’r maethynnau pridd leihau mewn ecosystem glaswelltir, bydd nifer y rhywogaethau o blanhigion sy’n gallu goroesi yn cynyddu a bydd amlygrwydd gweiriau bras yn lleihau. Bydd hyn yn darparu amgylcheddau mwy amrywiol ar gyfer bywyd gwyllt ar leiniau ymyl ffordd ac yn ychwanegu at fioamrywiaeth yr ardal.

Gellir gweld hynny ar waith eisoes yn ardal CNPT ar Ffordd yr Harbwr a Ffordd Fabian, lle bu’r dull rheoli hwn ar waith ers rhai blynyddoedd o dan y Cynllun Safleoedd Cadwraeth. Mae’r darnau ffyrdd hyn yn ddeniadol i ddefnyddwyr ffyrdd ac i beilliwyr fel ei gilydd. Yn wir, mae’n debygol hefyd eu bod yn cefnogi poblogaethau o’r Gardwenynen Feinlais, sydd mewn perygl, y ceir hyd iddi yn ardaloedd arfordirol y sir.

Brandio

Caiff lleiniau ymyl ffordd a glaswelltiroedd sy’n rhan o Gynllun Caru Gwenyn CNPT eu nodi â’r logo canlynol, sy’n dangos y Gardwenynen Feinlais sydd mewn perygl.

Logo Caru Gwenyn

Pwy sy’n rheoli’r lleiniau ymyl ffordd?

Rheolir safleoedd Caru Gwenyn CNPT gan ein timau Gwasanaethau Cymdogaeth gyda chymorth y Tîm Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt, tra bydd y polisi o ran y cynllun yn cael ei gydlynu gan yr is-adran Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt, a gellir cyfeirio ymholiadau am y cynllun i’r cyfeiriad environment@npt.gov.uk

Gweithio gyda chymunedau

Rydym yn awyddus i glywed gan unrhyw gymuned leol ynghylch sut maen nhw’n meddwl y gallant ein helpu gyda’r dull gweithredu ecolegol hwn o reoli lleiniau ymyl ffordd yn eu hardal. Gofynnwn i chi roi gwybod i ni:

  • Os ydych chi’n meddwl y gallai ardal elwa o gael ei thorri’n llai aml neu nad oes angen torri’r glaswellt mewn ardal benodol
  • Os hoffai eich cymuned fynd ati i reoli’r lleiniau ymyl ffordd yn unol â’r dull gweithredu ecolegol
  • Os hoffech wirfoddoli i’n helpu ni i ofalu am un o Leiniau Ymyl Ffordd arbennig Caru Gwenyn CNPT
  • Os gwyddoch am ardaloedd yn eich cymuned sy’n cael eu torri’n rheolaidd gennym ar hyn o bryd a fyddai’n addas ar gyfer sefydlu Llain Ymyl Ffordd Caru Gwenyn CNPT

Monitro

Byddwn yn monitro’r ardaloedd hyn o safbwynt buddion bioamrywiaeth yn unol â’r fethodoleg safonol. Bydd y gofynion o ran adnoddau ariannol a staff hefyd yn cael eu monitro a’u hadolygu’n barhaus. Canlyniadau’r holl waith monitro fydd yn llywio sut mae’r cynllun yn datblygu ac yn cael ei weithredu.

Cwynion a chanmoliaeth

Bob blwyddyn, cawn niferoedd amrywiol o gwynion gan y cyhoedd sy’n anfodlon ar swmp neu amseriad y gwaith a wnawn i gynnal a chadw lleiniau ymyl ffordd glaswellt. I raddau, mae rheoli lleiniau ymyl ffordd yn sefyllfa nad oes modd ei hennill. Mae peth o’r adborth o’r farn bod rhy ychydig o laswellt yn cael ei dorri tra bod adborth arall yn pryderu bod glaswellt wedi cael ei dorri’n rhy gynnar i ganiatáu i flodau gwyllt hadu neu ei fod heb ei dorri’n ddigon cynnar yn y tymor, neu fod y glaswellt wedi cael ei dorri ond bod y torion a adawyd ar ôl yn achosi annibendod.

Rydym yn agored i ychwanegu lleiniau ymyl ffordd ac ardaloedd glaswelltir newydd i’r cynllun ar unrhyw adeg a bydd y penderfyniad i gynnwys ardal benodol yn y cynllun hefyd yn cael ei adolygu os daw nifer sylweddol o gwynion i law. Nodir fodd bynnag, oherwydd bod newid dull rheoli lleiniau ymyl ffordd yn gallu effeithio ar batrymau gwaith ac adnoddau, y gall fod angen aros tan ddechrau’r tymor tyfu nesaf cyn cyflwyno lleiniau ymyl newydd i’r cynllun.

Cysylltu â ni

Cysylltwch â ni yn y cyfeiriad environment@npt.gov.uk – Pennawd y Neges ‘Caru Gwenyn CNPT’

Adolygu’r cynllun

Adolygir y cynllun bob pum mlynedd.

Cyfeiriadau a ffynonellau gwybodaeth bellach